Un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol i archwilio argaeledd gwasanaethau gordewdra yng Nghymru
2 Rhagfyr 2013
Mae un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o ymchwiliad newydd i argaeledd gwasanaethau gordewdra yng Nghymru.
Nod y Pwyllgor yw trafod y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau a nodi'r meysydd lle gallai camau pellach fod yn effeithiol. Ymhlith y prif faterion y bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn eu trafod mae:
effeithiolrwydd gwasanaethau arbenigol i fynd i'r afael â'r nifer cynyddol o bobl sy'n rhy drwm a gordew yng Nghymru;
meini prawf cymhwysedd y cleifion ac argaeledd llawdriniaethau i drin gordewdra, a gwasanaethau rheoli pwysau arbenigol ledled Cymru;
Mae'r Pwyllgor yn chwilio am gyfraniadau i'w ymchwiliad gan bobl sydd â phrofiad o'r gwasanaethau hyn, gan gynnwys cleifion, meddygon a darparwyr gwasanaethau.
Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae llawer o dystiolaeth mewn perthynas â'r nifer cynyddol o bobl sy'n rhy drwm a gordew yng Nghymru. Mae'n broblem na allwn fforddio ei hanwybyddu o safbwynt iechyd y wlad na'r coffrau cyhoeddus".
"Gwell atal na gwella, ond mewn rhai achosion, mae llawdriniaeth i drin gordewdra yn opsiwn angenrheidiol. Dyna pam y mae'r Pwyllgor yn trafod argaeledd gwasanaethau ledled y wlad, gan gynnwys llawdriniaeth fariatrig a gwasanaethau cymorth cysylltiedig.
"Rydym yn awyddus i adolygu pa gynnydd sy'n cael ei wneud gan y gwasanaeth iechyd ledled Cymru i adolygu - ac ehangu - y meini prawf ar gyfer cleifion cymwys. Byddwn hefyd yn ystyried pa gamau sy'n cael eu cymryd i gael mwy o wasanaethau rheoli pwysau, fel yr argymhellwyd ym mis Mawrth 2013 gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.
"Gofynnwn i unrhyw un sydd â phrofiad o'r gwasanaethau hyn, naill ai fel claf neu o'r ochr feddygol a chymorth, i rannu eu barn gyda ni er mwyn helpu i lywio ein canfyddiadau."
Gall unrhyw un sydd am gyfrannu wneud hynny drwy anfon e-bost i HSCCommittee@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
24 Ionawr 2014 yw'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus.