Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol i archwilio’r ymateb i ddifrod storm yng Nghymru
8 Ionawr 2014
Yn dilyn y difrod storm a ddioddefwyd ar arfordir Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi gwahodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ymddangos gerbron y Pwyllgor ym mis Ionawr.
Estynnwyd gwahoddiad hefyd i Cyfoeth Naturiol Cymru, sef y corff sy’n gyfrifol am gydgysylltu’r ymdrechion i ymateb i’r llifogydd gydag awdurdodau lleol a gwasanaethau brys.
Yn ogystal ag edrych ar yr ymateb i ddigwyddiadau diweddar, bydd y sesiwn hon hefyd yn darparu cyfle i ystyried cynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r argymhellion a wnaed yn adroddiad Diogelu’r Arfordir
y Pwyllgor (a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2012).
Yn yr adroddiad, dywedodd y Pwyllgor y gellir gwella llawer ar y gwaith o ddarparu ac ariannu strategaeth diogelu’r arfordir cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
Hefyd, tynnodd sylw at fwlch rhwng yr uchelgeisiau a geir yn strategaeth Llywodraeth Cymru a’r adnoddau sydd ar gael i sicrhau diogelwch yr arfordir ac ymgysylltu â’r cymunedau sy’n wynebu’r risg mwyaf.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr 11 o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor.