Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn adolygu dulliau integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru

Cyhoeddwyd 05/09/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn adolygu dulliau integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru

5 Medi 2012

Bydd un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar ba mor integredig yw trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Bydd ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes yn canolbwyntio ar wasanaethau bysiau, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gymunedol ar draws Cymru, a pha ffactorau sy’n llesteirio’r broses o’u hintegreiddio ar hyn o bryd.

Bydd y prif faterion a ystyrir gan y Pwyllgor yn cynnwys:

  • Sut y gellir cefnogi a gwella’r broses o integreiddio gwasanaethau rheilffyrdd, bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion cymunedau a busnesau yn ardaloedd cefn gwlad ac ardaloedd trefol Cymru?

  • Pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru o ran hybu’r broses o integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus?

  • Pa ddulliau arloesol o ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru y gellid eu hystyried i greu system fwy integredig?

  • I ba raddau y mae rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig gweithredwyr trafnidiaeth a chyrff cyhoeddus, yn llwyddo i gydweithredu i sicrhau gwasanaeth effeithiol?

  • Sut y gall creu llwybrau datganoledig Network Rail Cymru gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol ac integredig yng Nghymru?

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: “Mae gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn ffactor allweddol mewn economi lwyddiannus ac i gynnal ein cymunedau.


“Rydym yn awyddus i glywed gan deithwyr fel rhan o’r ymchwiliad hwn – o gynllunio eich taith, gwirio amserlenni ac archebu tocynnau i deithio a chyrraedd pen y daith.

“Bydd ein hymchwiliad yn dangos darlun cyflawn o sut y mae’r rhwydwaith yn gweithredu a lle y mae modd gwneud gwelliannau.

“Rydym hefyd am glywed am ddulliau arloesol o lenwi unrhyw fylchau yn y system neu i wella ac integreiddio’r rhwydwaith ymhellach.”

Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad anfon neges e-bost at pwyllgor.menter@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Menter a Busnes, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.

Daw’r ymgynghoriad cyhoeddus i ben ddydd Gwener, 2 Tachwedd 2012.