Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg (Cymru)

Cyhoeddwyd 22/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg (Cymru)

Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg (Cymru).

Mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wedi dod i'r casgliad y bydd y Bil, a gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, yn cyflawni nifer o'r amcanion a nodwyd ynddo, gan gynnwys gwella sut caiff y gweithlu addysg ei gofrestru yng Nghymru a chysoni dyddiadau tymhorau ysgol ledled Cymru.

Mae'r Pwyllgor wedi argymell y dylai'r darpariaethau sy'n ymwneud â chymorth i bersonau ag 'Anghenion Addysgol Arbennig' (AAA) gael eu cynnwys mewn deddfwriaeth ar wahân. Cred y Pwyllgor y byddai'n fwy priodol i gynnwys darpariaethau AAA mewn Bil ar wahân, a fyddai'n ystyried materion yn ymwneud ag AAA yn llawer ehangach. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei bwriad i gyflwyno Bil AAA pellach.

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi argymell newidiadau i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer corff cofrestru a fydd yn gosod a chynnal safonau proffesiynol. O dan y Bil presennol, ni fyddai angen i athrawon a staff cymorth mewn ysgolion annibynnol gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gynt).

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod hynny'n gadael bwlch posibl yn agored i athrawon sydd wedi'u disgyblu neu hyd yn oed wedi'u tynnu oddi ar y gofrestr allu dysgu mewn ysgolion annibynnol o hyd. Y farn oedd bod hynny'n creu bwlch o ran diogelwch y dylai Llywodraeth Cymru ei gau.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: “Mae'r Pwyllgor yn cefnogi amcanion y Bil Addysg.
“Roedd y dystiolaeth a gafwyd yn cefnogi diwygio Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac ymestyn y gofrestr i gynnwys staff eraill sydd ynghlwm wrth addysgu plant a phobl ifanc.

“Rydym wedi argymell y byddai'n well pe bai'r darpariaethau ar gyfer personau ag anghenion addysgol arbennig yn cael eu cynnwys mewn deddfwriaeth arall sy'n ystyried y materion hynny yn eu cyfanrwydd, yn hytrach nag fel rhan o rywbeth arall.
“Credwn hefyd ei fod yn hanfodol cynnwys athrawon ysgolion annibynnol yng nghwmpas y corff cofrestru”.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • Byddai manteision o ran cynnwys yr holl ddiwygiadau AAA o fewn un darn o ddeddfwriaeth, cyhyd a bo hynny'n cael ei wneud mewn modd amserol. Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai'r Gweinidog ystyried ai'r Bil hwn yw'r cyfrwng priodol ar gyfer y darpariaethau hynny;

  • Dylid diwygio'r Bil i sicrhau bod athrawon a staff ysgolion annibynnol wedi'u cynnwys yn y gofynion cofrestru; a

  • Dylai'r Gweinidog lunio rheoliadau drafft ynghylch gweithwyr ieuenctid i'r Pwyllgor eu hystyried cyn iddynt gael eu cyflwyno.

Caiff canfyddiadau'r Pwyllgor eu trafod yn y Cyfarfod Llawn cyn i Aelodau'r Cynulliad bleidleisio i benderfynu a gaiff y Bil symud ymlaen i'r cam nesaf.

Os caiff hynny ei dderbyn, y cam nesaf fydd trafod y Bil yn fwy manwl a chyfle i Aelodau'r Cynulliad gyflwyno gwelliannau.