Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar gynigion ar gyfer rhaglen gyllido newydd yr UE ynghylch ymchwil ac arloesi

Cyhoeddwyd 22/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar gynigion ar gyfer rhaglen gyllido newydd yr UE ynghylch ymchwil ac arloesi

22 Mawrth 2012

A National Assembly for Wales committee inquiry is set to examine legislative proposals for a new European Union research and innovation funding programme, called ‘Horizon 2020’.

Bydd ymchwiliad gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar y cynigion a wnaed ar gyfer rhaglen gyllido newydd yr Undeb Ewropeaidd ynghylch ymchwil ac arloesi, sef Horizon 2020.

Bydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn asesu’r cyfleoedd posibl sydd ar gael i brifysgolion, canolfannau ymchwil a busnesau yng Nghymru, a gyflwynwyd yng nghynigion drafft y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae gan y rhaglen Horizon 2020 dri amcan strategol - gwyddoniaeth ragorol, arweiniad diwydiannol a heriau cymdeithasol - a bydd cyllid yn cael ei ddyrannu’n bennaf drwy broses ymgeisio gystadleuol a gaiff ei rheoli’n ganolog ym Mrwsel. Bydd y broses hon yn agored i sefydliadau yng Nghymru a rhai ledled yr UE (ac, mewn rhai achosion, y tu hwnt i’r ffiniau hyn).

Mae cyllideb o £60 biliwn wedi’i chlustnodi ar gyfer y rhaglen hon, er y gallai’r cyfanswm hwn newid yn ystod y trafodaethau a gynhelir ym Mrwsel dros y 12-18 mis nesaf er mwyn pennu’r swm penodol o arian a fydd a’r gael a’r meini prawf a gaiff eu defnyddio mewn perthynas â chael mynediad ato.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried y posibilrwydd o greu synergeddau gyda rhaglenni  Cronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru yn y dyfodol, gyda’r nod o gryfhau perfformiad Cymru yn y rhaglen Horizon 2020 yn y dyfodol.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: “Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ei bod yn gweld ymchwil ac arloesi yn rhan allweddol o ddyfodol economaidd Cymru.

“Mae’n bosibl y bydd y gyllideb hon yn cynnwys swm mawr o arian Ewropeaidd y bydd Cymru’n gymwys i wneud ceisiadau amdano, ac mae’n bwysig ein bod yn cael rhan sylweddol ohono.

“Mae ymchwiliadau blaenorol a gynhaliwyd gan bwyllgorau’r Cynulliad wedi tynnu sylw at y ffaith ein bod wedi tanberfformio o ran cael mynediad at gyllid yn y meysydd hyn, ac at sut y dylid datblygu cysylltiadau agosach rhwng prifysgolion, sefydliadau ymchwil a chwmnïau technoleg.

“Yn ein barn ni, ni all Cymru fforddio methu cyfleoedd fel hyn, a bydd yr ymchwiliad hwn yn llunio argymhellion er mwyn sicrhau nad yw hynny’n digwydd.”

Gall unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad anfon neges e-bost at  enterprise.committee@wales.gov.uk, neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Menter a Busnes, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.


Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig yw 23 Ebrill 2012.