Un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi canlyniad y bleidlais ar gyfer ei ymchwiliad

Cyhoeddwyd 13/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae canlyniad y bleidlais ar-lein i benderfynu beth y dylai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal ymchwiliad iddo wedi'i gyhoeddi.

Gofynnodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i'r cyhoedd ddewis pa bwnc y dylai ei ystyried ar ôl cael nifer o syniadau yn ystod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd dros yr haf.

 

 
 
Gofynnwyd i bobl ddewis o blith y pynciau isod:
 
  • Cryfhau cyfranogiad dinasyddion a mynediad at wleidyddiaeth yng Nghymru;
  • Gwarchod treftadaeth ddiwylliannol leol yng Nghymru;
  • Y modd y caiff hanes ei ddysgu yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ddiwylliant a threftadaeth Cymru;
  • Datblygu a hyrwyddo 'brand Cymru';
  • Adolygiad Llywodraeth Cymru o amgueddfeydd yng Nghymru;  
  • Cefnogi a datblygu mathau unigryw a thraddodiadol o gelfyddyd yng Nghymru;
  • Mynediad at y celfyddydau ar lawr gwlad, a'r drefn gyllido;
  • Cefnogi'r rhai sy'n gweithio ym maes celfyddydau gweledol a chymhwysol yng Nghymru, a sicrhau eu bod yn datblygu;
  • Datblygu'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru;
  • Chymorth dwyieithog i bobl fyddar a thrwm eu clyw a phobl sydd ag anawsterau cyfathrebu.
 
Pleidleisiodd tua 2,700 o bobl. Roedd un o bob pum pleidlais ar gyfer yr un pwnc, gan sicrhau enillydd clir. Felly, heb oedi rhagor, dyma gyhoeddi mai'r pwnc y bydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn ei ystyried cyllido yw addysg cerddoriaeth.
 
“Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein pleidlais,” meddai Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor.
 
“Clywsom gymaint o syniadau da ar gyfer pynciau y gallem edrych arnynt, roeddem ni'n teimlo mai'r peth iawn oedd rhoi'r cyfle i'r cyhoedd ddewis pa un y dylem ganolbwyntio arno.
“Cerddoriaeth ym maes addysg oedd yr enillydd clir. Bydd y Pwyllgor yn trafod yn y flwyddyn newydd sut i fwrw ymlaen â'r ymchwiliad.”