Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)
25 Gorffenaf 2013
Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru).
Un o brif amcanion y Bil yw llacio rheolaethau deddfwriaethol dros Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru drwy gael gwared ar gyfyngiadau benthyca a llywodraethu. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y bydd yr ymreolaeth bellach a roddir i Golegau Addysg Bellach gan y Bil yn caniatáu i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol eu hailddosbarthu at ddibenion cyfrifyddu ac yn osgoi’r canlyniadau ariannol negyddol sy’n gysylltiedig â’u statws cyfrifyddu presennol.
Mae’r Bil hefyd yn ceisio symleiddio’r broses o gymeradwyo benthyciadau myfyrwyr tra’n lleihau ceisiadau twyllodrus drwy rannu data rhwng Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Gweinidogion Cymru.
Roedd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn fodlon gyda’r bwriad o wella’r broses benthyciadau i fyfyrwyr.
Ar fater statws Sefydliadau Addysg Bellach o dan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gofynnodd y Pwyllgor pam na wnaeth Llywodraeth Cymru ystyried dulliau eraill, gan gynnwys un y mae Llywodraeth yr Alban wrthi’n ymchwilio iddo, a fyddai’n gofyn i Drysorlys Ei Mawrhydi lacio rhai o reolau cyllidebu’r Llywodraeth.
Wrth nodi nad yw’r Trysorlys wedi cytuno ar drefniant o’r fath eto, mynegodd y Pwyllgor rai pryderon fod Llywodraeth Cymru yn ymddangos fel petai’n parhau â’i chynlluniau deddfwriaethol gan dybio beth fydd ymateb y Trysorlys.
Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: "Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil hwn ac rydym yn derbyn, os caiff ei basio, y bydd yn cyflawni’i nod o ailddosbarthu statws Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru, gan roi iddynt ragor o ymreolaeth ac osgoi canlyniadau ariannol posibl o ganlyniad i’w statws o dan y Swyddfa Ystadegau Gwladol,"
"Rydym yn argymhell, cyn y cam nesaf yn y broses ddeddfwriaethol, y dylai Llywodraeth Cymru drafod yn llawn â Thrysorlys EM y posibilrwydd o addasu rheolau cyfrifyddu’r Llywodraeth i helpu i leihau effeithiau penderfyniad dosbarthu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
"Hoffem weld hefyd sut mae Llywodraeth Cymru a’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn bwriadu cadw cefnogaeth briodol i bobl sy’n gwneud cais am fenthyciadau i fyfyrwyr ar lefel leol yng Nghymru."
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:
Llunio Memorandwm Esboniadol diwygiedig yn nodi’n fanylach ac yn fwy eglur y risgiau sy’n gysylltiedig â dull y Bil o liniaru effeithiau dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol;
Cyn y ddadl ar yr egwyddorion cyffredinol, y dylai Llywodraeth Cymru drafod yn llawn â Thrysorlys EM y posibilrwydd o addasu rheolau cyfrifyddu’r Llywodraeth i helpu i leihau effeithiau penderfyniad dosbarthu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol;
Nifer o awgrymiadau penodol ar gyfer gwella trefniadau llywodraethu colegau Addysg Bellach; a
Bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gyda’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr beth yw’r ffordd orau o fynd ati i gadw cymorth wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n gwneud cais am fenthyciadau i fyfyrwyr ar lefel leol.