Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
23 Tachwedd 2012
Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), ond ar yr amod y gwneir rhai newidiadau i'r Bil. Yn ogystal, argymhellodd y Pwyllgor fod materion ynghylch y trefniadau trosglwyddo ar gyfer staff Swyddfa Archwilio Cymru, trethu a chymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol yn cael eu datrys cyn i'r Bil symud ymlaen i gyfnod nesaf y broses ddeddfwriaethol.
Nod y Bil yw cryfhau a gwella'r trefniadau atebolrwydd a llywodraethu mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
Fodd bynnag, er bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, roedd hefyd yn pwysleisio'r ffaith y dylai'r Archwilydd Cyffredinol barhau i fod yn ddeiliad swydd annibynnol statudol sy'n bersonol gyfrifol ac atebol i'r Cynulliad. Argymhellodd y Pwyllgor nifer o welliannau i'r Bil er mwyn diogelu'r farn hon, yn seiliedig ar bryderon penodol a godwyd gan randdeiliaid am ddarpariaethau allweddol yn y Bil. Mae'r gwelliannau hyn yn ymwneud â'r model llywodraethu a gynigiwyd yn y Bil a maint a chyfansoddiad bwrdd gweithredol Swyddfa Archwilio Cymru.
Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae'r Pwyllgor yn cydnabod amcanion y Bil a'r gefnogaeth gyffredinol iddo yn ystod ein trafodaethau.”
“Dangosodd gweithredoedd yr Archwilydd Cyffredinol blaenorol inni'n glir bod angen cefnogaeth ddigonol ar y swydd a system craffu ariannol cadarn.”
“Fodd bynnag, er bod y Pwyllgor wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, mae hefyd wedi gwneud rhai argymhellion a fydd yn sicrhau, ymysg pethau eraill, fod annibyniaeth deiliad y swydd i gyflawni'r dyletswyddau a roddwyd iddo a'i atebolrwydd i'r Cynulliad Cenedlaethol yn parhau.”
Bydd y Bil ac argymhellion y Pwyllgor yn cael eu trafod gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y Cyfarfod Llawn.