Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)
22 Mawrth 2013
Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru).
Cynigiwyd y Bil gan Lywodraeth Cymru a bwriedir iddo wella democratiaeth leol drwy’r darpariaethau a ganlyn:
Mae’n diwygio trefniadaeth a swyddogaethau’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth
Leol i Gymru;
Mae’n diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â chyfrifoldebau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a strwythur pwyllgorau archwilio awdurdodau lleol;
Mae’n ymwneud â mynediad y cyhoedd at wybodaeth am gynghorau tref a chymuned;
Mae’n diwygio Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 er mwyn ei gwneud yn haws i awdurdodau lleol greu cyd-bwyllgorau safonau;
Mae’n ymwneud â swyddogaeth Cadeirydd neu Faer prif gynghorau; ac
Mae’n addasu a chydgrynhoi’r darpariaethau cyfredol ar lywodraeth leol mewn perthynas â’r Comisiwn Ffiniau gan hybu datblygiad Llyfr Statud Cymreig.
Wrth drafod y Bil, canfu’r Pwyllgor fod y rhan fwyaf o’r tystion yn cefnogi’r angen am y ddeddfwriaeth hon.
Mae’r Pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys sicrhau bod un o Gomisiynwyr y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn siarad Cymraeg ac argymell bod y Gweinidog yn ailystyried y newidiadau i derminoleg a weithredir gan y Bil.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell newidiadau i’r rheolau i ganiatáu adolygiad o wasanaethau democrataidd awdurdodadu lleol ac yn argymell bod y rhwymedigaethau cyhoeddi ar gyfer cynghorau tref a chymuned hefyd yn gymwys i brif gynghorau.
Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: “Mae’r Bil hwn yn cynnig newidiadau y bwriedir iddynt sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynrychioli’r bobl y maent yn eu gwansanaethu yn well.
“Roedd y rhan fwyaf o’r rhai a gyfrannodd at ein gwaith o edrych ar y Bil yn cytuno bod angen deddfwriaeth yn y maes hwn ac mae’r Pwyllgor yn cytuno â’r farn hon.
“Rydym wedi cydnabod y pryderon a godwyd gan rhai o’r tystion a rydym yn gobeithio y rhoddir ystyriaeth lawn i argymhellion y Pwyllgor.”
Bydd y Cynulliad llawn yn cynnal dadl ar y Bil, cyn yr aiff ymlaen i Gyfnod 2 o’r broses ddeddfu, pan gaiff ei ystyried yn fanylach a phan gaiff Aelodau’r Cynulliad gyflwyno gwelliannau arfaethedig i’w hystyried gan bwyllgor.