Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn datgelu'r Siarter ar gyfer Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018
11 Rhagfyr 2013
Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi llunio Siarter y cred y dylai lywio dyfodol masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
Bydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn cyflwyno'r Siarter i randdeiliaid yn Henffordd i amlygu pwysigrwydd llwybrau a gwasanaethau trawsffiniol o ran gonestrwydd a hyfywedd ardal masnachfraint Cymru a'r Gororau drwyddi draw.
Hoffai'r Pwyllgor weld teithwyr yn cael eu rhoi yn ganolog i'r fasnachfraint nesaf, a fydd yn dechrau yn 2018.
Er bod hynny ryw bedair blynedd i ffwrdd, mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i roi cyfres o fesurau ar waith nawr er mwyn sicrhau bod y fasnachfraint nesaf yn darparu gwasanaethau gwell ac yn sicrhau gwerth am arian.
I ddechrau, hoffai'r Pwyllgor weld y pwerau a'r cyllid angenrheidiol yn cael eu datganoli fel bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am nodi a chaffael Masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau. Mae angen eglurhad o'r mater hwn yn fuan fel y gellir datblygu'r gwaith o baratoi ar gyfer caffael masnachfraint.
Yn ail, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ganddo ddigon o refeniw ac adnoddau cyfalaf, a staff gyda'r profiad gofynnol a'r sgiliau arbenigol i ddatblygu a darparu'r fasnachfraint newydd a'r cerbydau angenrheidiol.
Mae angen datblygu strategaeth gerbydau ar frys fel y caiff y penderfyniadau pwysig ynghylch cydnawsedd cerbydau ar gyfer deddfwriaeth drydaneiddio a hygyrchedd eu gwneud mewn da bryd er mwyn osgoi'r gost uwch a'r aflonyddwch sy'n gysylltiedig ag oedi.
Yn ychwanegol at adroddiad blaenorol gan y Pwyllgor ar drafnidiaeth gyhoeddus integredig yng Nghymru, mae argymhelliad arall yn galw ar i'r fasnachfraint gael ei hintegreiddio â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus eraill, gan gynnwys Metro arfaethedig De Cymru a'r rhwydwaith fysiau.
Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes; "Credwn fod cyfle gwirioneddol i Lywodraeth Cymru greu gwasanaeth a fydd yn ymateb i anghenion y teithwyr yng Nghymru a'r Gororau.
"Drwy sefydlu gofynion llym ar gyfer gorsafoedd, cyfleusterau a dulliau monitro perfformiad, yn ogystal â thryloywder ariannol o ran elw a chymorthdaliadau, mae gan y fasnachfraint nesaf y potensial i wella gwasanaethau'r rheilffyrdd yn sylweddol i deithwyr tra'n sicrhau gwerth am arian.
"Rydym hefyd am weld masnachfraint sydd wedi'i hintegreiddio â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus eraill, gan gynnwys Metro arfaethedig De Cymru a'r rhwydwaith fysiau.
Ymhlith y pwyntiau allweddol a nodwyd yn y Siarter gan y Pwyllgor mae:
Parhau i lobïo Llywodraeth y DU am i’r grymoedd angenrheidiol a’r arian gofynnol gael eu datganoli fel mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y fanyleb ar gyfer Masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau ac am ei chaffael.
Sicrhau bod y fasnachfraint yn ymdrin yn glir â’r materion eraill canlynol:
Rhoi anghenion teithwyr wrth galon y fasnachfraint nesaf.
Yr angen am fuddsoddiad sylweddol gan y gweithredwr. Efallai mai drwy fasnachfraint hwy y gellir hwyluso hyn orau, ond dim ond gyda monitro perfformiad a gwerthuso effeithiol a chymalau terfynu priodol i fynd i’r afael â thanberfformio.
Gwneud manylion ariannol y fasnachfraint yn fwy tryloyw drwy ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y fasnachfraint gyhoeddi’i ddata buddsoddi ac elw yn ogystal ag unrhyw gymhorthdal a geir gan y Llywodraeth.
Integreiddio gyda dulliau trafnidiaeth eraill, yn cynnwys Metro de-ddwyrain Cymru a’r rhwydwaith bysiau.
Adroddiad: Dyfodol Masnachfraint Rheilffydd Cymru a’r Gororau
Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Menter a Busnes ar gael yma.