Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau ar y broses o ymgynghori ynghylch Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
23 Gorffennaf 2012
Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).
Nod y Bil, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi nifer o gynigion, yn ôl y Memorandwm Esboniadol sy’n cydfynd ag ef, yw “cryfhau a gwella’r trefniadau atebolrwydd a llywodraethu sy’n ymwneud ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru a gwarchod annibyniaeth a gwrthrychedd Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr un pryd”.
Noda’r Memorandwm Esboniadol fod y newidiadau hyn yn angenrheidiol, er mwyn mynd i’r afael â phryderon a nodwyd mewn cysylltiad ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn deillio o’r modd y cyflawnodd Archwilydd Cyffredinol blaenorol agweddau ar ei ddyletswyddau, a amlygodd ddiffyg atebolrwydd allanol cadarn. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod yr Archwilydd Cyffredinol presennol eisoes wedi rhoi trefniadau ar waith i wella diffygion o ran llywodraethu ac atebolrwydd, drwy gryfhau systemau rheolaeth fewnol a chyflwyno prosesau adolygu rheolaidd.
Swyddfa Archwilio Cymru yw’r corff sy’n gwarchod gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae’n archwilio cyfrifon cyrff cyhoeddus ac yn edrych ar sut y darperir gwasanaethau. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn annibynnol ar y Llywodraeth ac ef sy’n arwain Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn galw am dystiolaeth, wrth iddo ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a’r angen am ddeddfwriaeth i wella trefniadau atebolrwydd a llywodraethu Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, a materion perthnasol eraill, drwy gyfeirio at:
- y darpariaethau unigol a nodir yn y Bil —
Adrannau 2-12, sy’n ymwneud ag Archwilydd Cyffredinol Cymru,
Adrannau 13-28, sy’n ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru a’i pherthynas â’r Archwilydd Cyffredinol, ac
Adrannau 29-37, sy’n gwneud darpariaethau amrywiol a chyffredinol;
- unrhyw rwystrau posibl i weithredu’r darpariaethau hyn ac a yw’r Bil yn ystyried y rhwystrau hyn;
- goblygiadau ariannol y Bil;
- pa mor briodol yw’r pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth.
Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae’r Bil hwn yn ymwneud â threfniadau atebolrwydd a llywodraethu Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn y dyfodol.
“Mae’n bwysig ein bod yn casglu barn pobl ar y pwnc. Hoffem ofyn i unrhyw un sydd â barn am hyn i ystyried y Bil a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef, ac i anfon eu syniadau i’r Pwyllgor.
“Edrychwn ymlaen at glywed eu barn a’ch safbwyntiau ar y mater hwn.”
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil yn dod i ben ar 5 Hydref 2012.