Un o Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn dod i’r casgliad fod achosion o diabetes wedi cyrraedd lefel ‘epidemig’ yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn dod i’r casgliad fod achosion o diabetes wedi cyrraedd lefel ‘epidemig’ yng Nghymru

24 Mehefin 2013

Mae un o Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod angen cymryd camau ar frys i fynd i’r afael â’r hyn y mae’n ystyried i fod yn ‘epidemig’ o achosion o diabetes yng Nghymru.

Clywodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod pump y cant o boblogaeth Cymru - dros 160,000 o bobl - wedi cael gwybod fod ganddynt diabetes. Amcangyfrifir fod gan 350,000 o bobl gyflwr cyn-diabetes, sy’n golygu bod ganddynt lefel uwch nag arfer o glwcos yn y gwaed.

Canfu’r Pwyllgor fod targedau a amlinellwyd ddegawd yn ôl yn Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r broblem yn debygol o gael eu methu.

Mae’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy cadarn wrth fonitro darpariaeth gwasanaethau diabetes ymhlith byrddau iechyd lleol, gyda phwyslais ar rannu arfer gorau, pan y mae’n cyhoeddi ei Chynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes sydd yn yr arfaeth.

Mae hefyd yn awgrymu bod angen mabwysiadu dull sydd wedi’i gydgysylltu’n well ar draws yr holl ddarparwyr gofal iechyd, gan gynnwys meddygon teulu a fferyllfeydd cymundeol, i helpu i fonitro cyflyrau a meddyginiaethau cleifion. Pwysleisiodd y Pwyllgor ei bod yn hanfodol, wrth ymdrin â diabetes, fod cyflwr person yn cael ei nodi a’i reoli fel rhan o’r driniaeth os yw’r person hwnnw’n datblygu cyflwr nad yw’n gysylltiedig â’r diabetes.

Hefyd, cafodd y ddarpariaeth fratiog o ran yr addysg sydd ar gael o amgylch y wlad i bobl sydd wedi cael clywed yn ddiweddar fod ganddynt diabetes ei nodi yn ystod yr ymchwiliad. Gall canlyniadau peidio â rheoli’r cyflwr fod yn ddifrifol: mae’r Pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r amrywiaeth yn y gwaith hwn, a hynny ar fyrder.

Dywedodd Vaughan Gething AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, “Roedd y tystiolaeth a glywsom yn drawiadol. Mae diabetes wedi cyrraedd lefel epidemig yng Nghymru. Nid mater ymylol mohono – mae’n her sylweddol i ni oll, nid yn unig y rhai sy’n byw â diabetes neu’r staff gofal iechyd sy’n gofalu amdanynt. Mae’r galw a’r gost gynyddol am driniaeth yn rhywbeth sy’n effeithio ar bob un ohonom.

“Bydd parhau i fethu â gweithredu yn golygu niferoedd cynyddol o bobl â diabetes sydd hefyd yn wynebu niferoedd gynyddol o gymhlethdodau. Byddai hynny’n golygu mwy o bobl yn byw ag afiechyd. Ni ddylem dderbyn hynny fel rhywbeth sy’n anochel.

“Gall diabetes arwain at ystod eang o gymhlethdodau – mae pobl sydd â diabetes yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd y galon, clefyd yr arennau neu ddallineb, neu mae’n bosibl y bydd angen torri rhan o’r corff i ffwrdd.

“Mae hyn oll yn costio hanner biliwn o bunnoedd i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae’n debygol y bydd y ffigur hwn yn cynyddu wrth i nifer y bobl sydd â’r cyflwr barhau i gynyddu.

“Mae’r Pwyllgor am weld Llywodraeth Cymru yn arwain mwy ar y gwaith o ymdrin â’r sefyllfa hon. Rydym yn cydnabod y cynnydd sydd yn barod yn cael i wneud i’r perwyl hwn gyda’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Diabetes sydd yn yr arfaeth, ond credwn fod angen mabwysiadu dull sydd wedi’i gydgysylltu’n well ledled Cymru i fynd i’r afael â’r broblem.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn cael ei weithredu drwy gryfhau’r trefniadau arolygu a monitro, a bod hynny’n flaenoriaeth yn y cynllun cyflawni newydd. ;

  • Dylai cyflwyno system rheoli cleifion â diabetes integredig fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym yn nodi’r ymrwymiad sydd eisoes wedi’i wneud i gyflwyno system o’r fath, ac yn argymell bod amserlen glir ar gyfer ei chyflwyno yn cael ei chynnwys yn y cynllun cyflawni newydd ar gyfer diabetes; a

  • Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar unwaith i fynd i’r afael â’r amrywiadau yn y ddarpariaeth addysg strwythuredig ar gyfer pobl â diabetes.

Adroddiad - Ymchwiliad i weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Rhagor o wybodaeth am weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol