Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Ieithoedd Swyddogol
8 Mai 2012
Mae adroddiad gan un o bwyllgorau craffu’r Cynulliad Cenedlaethol wedi cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).
Byddai’r Bil, a gyflwynwyd gan Gomisiwn y Cynulliad, sef y corff sy’n gyfrifol am gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad â’u dyletswyddau, yn ymgorffori yn y gyfraith mai’r Gymraeg a’r Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol.
Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, a fu’n craffu ar y Bil yng Nghyfnod 1 o’r broses ddeddfu, wedi argymell y dylai darparu Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion gael ei gynnwys yn y Bil, yn hytrach na bod yn rhan o Gynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad.
Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: “Mae’r Pwyllgor yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil ac rydym yn gweld bod ei angen, o ystyried nad yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn dod o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) a basiwyd yn 2011.
“Drwy argymell newidiadau i’r Bil, mae’r Pwyllgor yn bwriadu sefydlu’n glir ymrwymiad y Cynulliad i lunio Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion. Er mwyn gwneud newidiadau pellach i’r safbwynt hwn, byddai angen cyflwyno a chymeradwyo Bil arall.”
Mae’r Bil yng Nghyfnod 1 o’r broses ddeddfu. Canllaw i’r broses ddeddfu.