Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn datgan bod angen cael trafodaeth ddeallus ynghylch tîm criced i Gymru

Cyhoeddwyd 01/05/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn datgan bod angen cael trafodaeth ddeallus ynghylch tîm criced i Gymru

1 Mai 2013

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am drafodaeth ddeallus i ganfod a fyddai'n bosibl sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru.

Mae'r Pwyllgor wedi datgan y dylid cynnal ymgynghoriad i ganfod beth yw'r brif farn ymysg pob rhan o fyd criced, gan gynnwys chwaraewyr a chefnogwyr ar bob lefel ac o bob oedran.

Penderfynodd beidio â gwneud argymhelliad o blaid neu yn erbyn sefydlu tîm, gan ddod i'r casgliad mai penderfyniad y rhai sy'n gyfrifol am ddiogelu a hyrwyddo criced yng Nghymru ydyw.

Wrth gasglu gwybodaeth i lywio'i benderfyniad, nododd y Pwyllgor fod Criced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg yn erbyn deiseb sy'n galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru “i annog Llywodraeth Cymru i gefnogi'r ymgyrch i sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru.”

Mynegwyd hefyd bryderon trefniadol a chyfansoddiadol ynghylch safle Cymru ym myd criced rhyngwladol, y broses bosibl o'i gwahanu o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), a chyllido.

Dywedodd William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Wrth i'r Pwyllgor ystyried y ddeiseb hon, gwelodd angerdd a chefnogaeth mewn perthynas â chriced yng Nghymru y gellir eu cymharu â'r gefnogaeth a roddir i rai o'r prif dimau ym myd criced prawf, fel tîm Seland Newydd.”

“Wrth wraidd y ddeiseb mae hunaniaeth genedlaethol a'r gred nad yw Cymru'n cael ei gweld ar y llwyfan rhyngwladol, gan mai dim ond Lloegr y mae'r cefnogwyr yn ei gweld yn cael ei chynrychioli ar hyn o bryd.

“Mae'n deimlad sy'n deillio o rywbeth mor syml ag acronym Bwrdd Criced Cymru a Lloegr – ECB - nad yw i'w weld i gynnwys Cymru.

“Wrth archwilio a yw'n bosibl ac yn briodol sefydlu tîm cenedlaethol i Gymru, mae'r Pwyllgor yn cydnabod y rhwystrau mawr sy'n bodoli.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn fan cychwyn ar gyfer cynnal trafodaeth ddeallus sy'n ystyried barn a syniadau pawb sy'n cefnogi criced ar lefel broffesiynol, sir ac ar lefel tîm pentref. Dylai'r safbwyntiau hyn gyfrannu at ganfod y dull gorau o ymdrin â'r mater a phenderfynu ar y ffordd ymlaen.”

Yn ystod ei waith o ystyried y ddeiseb, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y prif ddeisebydd a chan sefydliadau ac unigolion a oedd yn cynnwys Criced Cymru, Clwb Criced Morgannwg, Chwaraeon Cymru, a Matthew Maynard, cyn chwaraewr i Forgannwg a Lloegr.

Cafodd y ddeiseb, a gyflwynwyd gan Matthew Bumford o Gaerdydd, 187 o lofnodion.

Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Deisebau

Linc i ragor o wybodaeth am system ddeisebu'r Cynulliad Cenedlaethol

Linc i ragor o wybodaeth am y ddeiseb sy'n galw am gefnogaeth i'r ymgyrch dros sefydlu tîm criced i Gymru