Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn galw am amserlen glir ar gyfer gwella gwasanaethau strôc ymhellach yng Nghymru.

Cyhoeddwyd 09/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn galw am amserlen glir ar gyfer gwella gwasanaethau strôc ymhellach yng Nghymru.

9 Ionawr 2014

Mae angen amserlen glir sy’n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i wella gwasanaethau strôc ymhellach yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Canfu’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bod nifer o’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad a gyhoeddodd ddwy flynedd yn ôl heb eu gweithredu’n llawn o hyd, er bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno arnynt, mewn egwyddor o leiaf.

Roedd y prif faterion a nodwyd yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor yn 2011 yn cynnwys:

  • pryderon ynghylch gweithredu, arwain, rheoli a monitro’r Cynllun Gweithredu i Leihau’r Risg o Strôc;

  • bod angen rhoi mwy o bwyslais ar atal achosion o strôc ar ôl pwl o isgemia dros dro (TIA) neu strôc gychwynnol;

  • bod angen clir am welliannau i’r gwaith o ganfod ffibriliad atrïaidd a’i drin; a

  • bod mwy o angen am ymwybyddiaeth o strôc a’r hyn sy’n ei achosi ymhlith gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd.

Yn ei ymchwiliad dilynol, penderfynodd y Pwyllgor bod y cynnydd o ran nifer o’r meysydd hyn wedi bod yn araf ac anghyson mewn amrywiol fyrddau iechyd.

Mewn llythyr at Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae’r Pwyllgor argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amserlen o fewn chwe wythnos yn nodi’n glir pryd y disgwylia gyflawni ei argymhellion blaenorol yn llawn.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r Pwyllgor yn wedi tynnu sylw at yr hyn a wêl fel cynnydd annigonol o ran gweithredu rhai o’r argymhellion.

“Cyfaddefodd y Gweinidog bod diffyg cynnydd wedi bod mewn rhai meysydd, a dyna’r rheswm pam rydym yn awr yn galw am amserlen glir sy’n nodi pryd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl cyflawni ein hargymhellion yn llawn.

“Rwy’n aralleirio canfyddiadau’r adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor ddwy flynedd yn ôl, drwy ddweud bod cost ddynol a chost ariannol strôc yn enfawr ac mae’n effeithio ar deuluoedd drwy Gymru.

“Mae cyfle euraidd yn awr i Lywodraeth Cymru wella ei Chynlllun Cenedlaethol i Gyflawni ar gyfer Strôc er mwyn lleihau’r risg o strôc a sicrhau bod gwasanaethau o safon gyson uchel ar gael ledled y wlad.”

Rhagor o wybodaeth am ymchwiliad dilynol y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Leihau’r Risg o Strôc.

Rhagor o wybodaeth am ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Leihau’r Risg o Strôc yn 2011.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.