Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn galw am leihau dibyniaeth pobl hyn ar ofal preswyl

Cyhoeddwyd 13/12/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn galw am leihau dibyniaeth pobl hyn ar ofal preswyl

13 Rhagfyr 2012

Yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol, mae angen i Gymru ailystyried y ffordd y mae’n gofalu am bobl hyn.

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am leihad pellach yn y defnydd o ofal preswyl fel y dewis diofyn drwy ddatblygu’r gwaith a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru i symud at roi rhagor o bwyslais ar ddewisiadau sy’n cadw pobl yn eu cymunedau.

Clywodd y Pwyllgor, a gwelodd drosto’i hun, dystiolaeth o ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau sy’n gwella bywydau pobl hyn, sy’n cynnal eu hannibyniaeth neu’n ei roi yn ôl iddynt ac sydd, mewn llawer o achosion, yn cyflymu eu hadferiad corfforol a meddyliol.

Daeth hefyd i’r casgliad bod yn rhaid gwneud popeth posibl i leihau’r straen ar bobl sy’n wynebu gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch eu gofal eu hunain neu ofal eu hanwyliaid.

Mae’r mesurau y gellid eu cymryd yn cynnwys rhoi gwybodaeth llawer cliriach am ddewisiadau gofal ynghyd â sicrhau bod adroddiadau archwilio o gartrefi gofal ar gael yn fwy ehangach ac yn hawdd i’w deall.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, “Gall y broses o ystyried dewisiadau gofal wrth inni heneiddio fod yn broses anodd iawn, gan ein bod yn gorfod cydnabod bod ein hannibyniaeth ni neu annibyniaeth ein hanwyliaid yn dirywio.”

“Mae sensitifrwydd ac eglurder yn hanfodol bwysig yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r Pwyllgor o’r farn bod yn rhaid gwneud mwy i leihau’r pwysau sy’n gysylltiedig â gwneud y penderfyniadau anodd hyn.

“Rhan o’r broses hon yw sicrhau bod gwybodaeth am yr holl ddewisiadau posibl mor glir a syml â phosibl fel y gall pawb sy’n rhan o’r broses, gan gynnwys pobl hyn a’u teuluoedd, wneud dewisiadau doeth.

“Rydym hefyd o’r farn y gellid ac y dylid gwneud mwy i leihau ein dibyniaeth ar ofal preswyl. Mae’r Pwyllgor wedi gweld llawer o ffyrdd creadigol a llawer o wasanaethau o safon uchel sydd wedi caniatáu pobl hyn i gadw eu hannibyniaeth. Mae effeithiau cadarnhaol dull o’r fath yn amlwg.”

Cafodd y Pwyllgor gymorth gyda’i ymchwiliad gan grwp cyfeirio allanol a oedd yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd. Ystyriodd y grwp yr un dystiolaeth â’r Pwyllgor a chyfrannod ei ganfyddiadau ei hun.

“Roedd cyfraniad y grwp cyfeirio yn hanfodol i’r ymchwiliad oherwydd roeddynt yn gallu pwyso a mesur y dystiolaeth yn erbyn eu profiadau hwy eu hunain.”

“Mae gan lawer o aelodau’r grwp berthnasau sydd mewn gofal neu maent yn nesáu at orfod gwneud dewisiadau anodd, felly roedd gweld y materion o’u safbwynt hwy yn hynod werthfawr.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Ni ddylid gweld gofal preswyl yn opsiwn sy’n cynnig un canlyniad yn unig, sef dirywiad nad oes modd ei ddad-wneud. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r sector i sicrhau bod preswylwyr yn gallu cael bywyd sy’n rhoi mwy o ysgogiad iddynt ac sy’n fwy pwrpasol gan gwmpasu eu hanghenion ysbrydol.

  • Dylid gwneud rhagor i ddarparu cyngor a gwybodaeth i helpu pobl hyn, eu teuluoedd a’u gofalwyr wrth iddynt benderfynu ynghylch eu gofal tymor hir.

  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’i phartneriaid i ddatblygu cynlluniau newydd sy’n rhoi mwy o lais a rheolaeth i breswylwyr, i’w teuluoedd ac i’w gofalwyr. Nod hyn fyddai dylanwadu ar siâp a thrywydd gwasanaethau a rhoi pwysau parhaus ar ansawdd y gwasanaeth.

  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pobl hyn bob tro’n cael cynnig cyfnod o ailalluogi neu ofal canolraddol ar ôl cyfnod o salwch, yn enwedig pan fyddant wedi cael triniaeth mewn ysbyty. Wrth benderfynu ynglyn â gofal, dylid ystyried yn llawn faint o botensial sydd gan rywun i gynnal a chryfhau eu hannibyniaeth. Ni ddylai neb fynd yn syth i ofal preswyl parhaol o'r ysbyty.

  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod trefniadau ar gyfer craffu ariannol ar ddarparwyr annibynnol yn cael eu cryfhau. Dylid gwneud hyn drwy ailymweld ac ailasesu trefniadau ‘person addas a phriodol’ mewn achosion lle bydd cartrefi gofal yn newid dwylo er mwyn sicrhau eu bod yn cynnwys ystyried cynaliadwyedd ariannol a’u bod yn berthnasol i gorfforaethau yn ogystal ag i reolwyr /perchnogion unigol.

Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Linc i ragor o wybodaeth am yr ymchwiliad i Ofal Preswyl i Bobl Hyn