Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn lansio ymchwiliad i bêl-droed
7 Mawrth 2012
Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n casglu safbwyntiau a syniadau am ddyfodol Uwch Gynghrair Bêl-droed Cymru.
Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus ar ymchwiliad a fydd yn archwilio materion gan gynnwys fformat cystadlaethau, datblygiad a chynnydd chwaraewyr, hyfforddwyr a rheolwyr, a dyfodol y gynghrair.
Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, “Mae rhai o chwaraewyr pêl-droed gorau’r byd yn dod o Gymru ac mae angerdd cefnogwyr pêl-droed Cymru heb ei ail,”
“Er bod llawer yn dilyn Uwch Gynghrair Bêl-droed Cymru yn ffyddlon ar draws Cymru mae’r pwyllgor hwn yn awyddus i sefydlu ei gyfraniad i bêl-droed Cymru a’i rhagolygon ar gyfer y dyfodol.”
“Mae gan gefnogwyr pêl-droed Cymru bob amser farn am y gêm ac rwy’n gobeithio y byddan nhw’n dewis rhannu rhai o’u safbwyntiau â ni.”
Gall unrhyw un sydd eisiau cyflwyno gwybodaeth neu dystiolaeth yn rhan o’r ymchwiliad naill ai anfon ebost i Pwyllgor.CCLLL@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Glerc y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA
Y dyddiad cau i gyflwyno gwybodaeth neu dystiolaeth yw 13 Ebrill 2012.