Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn pryderu'n ddifrifol am wasanaethau i bobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru. Codwyd y pryderon mewn ymateb i dystiolaeth gan bobl ifanc a'u rhieni yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) arbenigol.
Dyma gasgliadau'r ymchwiliad:
Nid oes lefel ddigonol o wasanaethau CAMHS yn cael ei darparu i ddiwallu anghenion y bobl ifanc yng Nghymru y mae angen gwasanaeth meddygol arbenigol arnynt;
Mae'r plant a phobl ifanc hynny nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer gwasanaethau CAMHS yn wynebu trafferthion, gan gynnwys amseroedd aros, gwasanaethau a ddarperir mewn clinigau a'r defnydd o feddyginiaeth ar bresgripsiwn;
Mae'r diffyg gwasanaethau ar gyfer y plant a'r bobl ifanc hynny nad ydynt yn bodloni meini prawf y 'model meddygol' ar gyfer gwasanaethau CAMHS yn golygu bod lefel sylweddol o angen nad yw'n cael ei diwallu.
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymateb i'r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor drwy gyhoeddi adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau CAMHS yng Nghymru.
Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
"Mae hon yn foment bwysig i wasanaethau CAMHS yng Nghymru, yn ein barn ni.
"Mae'n cynnig cyfle mawr ei angen i foderneiddio'r gwasanaeth fel ei fod yn addas i'r diben ac yn gallu diwallu anghenion plant a phobl ifanc yn y Gymru fodern.
"Rydym wedi ymrwymo'n llawn i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru wrth weithredu'r newidiadau sylweddol sydd eu hangen i wella gwasanaethau CAMHS yn ehangach, a byddwn yn dychwelyd at y mater i fonitro cynnydd a sicrhau bod yr agenda foderneiddio yn cael ei rhoi ar waith ar amser, yn ôl y bwriad."
Adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a (PDF, 962KB)