Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn ymgynghori ar Fil eang ar yr amgylchedd

Cyhoeddwyd 18/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/05/2015

​Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd ynghylch Bil yr Amgylchedd (Cymru).

Mae'r Bil, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar 11 Mai, yn ceisio deddfu ar amrywiaeth eang o faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd, gan gynnwys:

  • Cynllunio a rheoli cyfoeth naturiol Cymru ar lefel genedlaethol a lleol.
  • Darparu pwrpas cyffredinol i Gyfoeth Naturiol Cymru sy'n gysylltiedig ag 'egwyddorion statudol rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy' fel y diffinnir yn y Bil.
  • Gwella'r pwerau sydd ar gael i Gyfoeth Naturiol Cymru ymgymryd â chytundebau rheoli tir a chynlluniau arbrofol.
  • Darparu gofyniad i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth.
  • Creu fframwaith statudol ar gyfer gweithredu o ran newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
  • Diwygio'r gyfraith ar godi tâl am fagiau plastig
  • Darparu pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ailgylchu gwastraff (gan gynnwys casglu gwastraff ar wahân); trin gwastraff bwyd ac adfer ynni mewn busnes.
  • Gwneud darpariaeth o ran gorchmynion niferus a rheoleiddiedig ar bysgodfeydd ar gyfer pysgod cregyn.
  • Ffioedd am drwyddedau morol.
  • Sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol
  • Newidiadau i'r gyfraith ar ddraenio tir ac is-ddeddfau a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd:

"Bydd y cynigion hyn, os cânt eu gwneud yn gyfraith, yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau; o faterion mawr fel gosod ein huchelgeisiau ar gyfer mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a sut mae'r tir o'n cwmpas yn cael ei reoli i fanylion fel faint yr ydym yn ei dalu am fag siopa a sut y byddwn yn didoli ein gwastraff ailgylchu.

"Mae'n bwysig bod y Bil hwn yn gywir, gan y bydd yn cael effaith sylfaenol ar sut rydym yn cadw cydbwysedd rhwng cadwraeth ac adfer natur wrth ddefnyddio ein cyfoeth naturiol mewn modd cynaliadwy.

"Fel Pwyllgor, byddwn yn edrych ar y Bil hwn yn fanwl i weld a ddylai ddod yn gyfraith, ac i sicrhau, os bydd hynny'n digwydd, bod y Bil yn cyrraedd y safonau uchaf posibl."