Un o bwyllgorau’r Senedd yn galw am sector bwyd cryfach a mwy hunangynhaliol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 20/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/01/2026   |   Amser darllen munudau

Mae mewnforio cig o wledydd nad ydynt yn cydymffurfio â'r safonau amgylcheddol a llesiant uchel sy’n llywodraethu gwaith ffermwyr a phroseswyr yng Nghymru yn cyfyngu ar dwf y sector prosesu bwyd yn ein gwlad.

Dywed adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd bod prosesu bwyd yn ychwanegu £7 biliwn at economi Cymru, yn cefnogi swyddi, cymunedau a diogelwch bwyd ledled y wlad. Mae angen cymorth y Llywodraeth ar y diwydiant, fodd bynnag, er mwyn iddo allu tyfu a ffynnu, yn ôl yr adroddiad.

Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau mwy pendant i gryfhau'r sector prosesu bwyd, ac i helpu busnesau allweddol dyfu. Byddai hyn yn creu cadwyni cyflenwi lleol cadarn, yn cynyddu diogelwch bwyd a chynaliadwyedd, ac yn helpu pobl i fwynhau bwyd o ansawdd rhagorol a gaiff ei gynhyrchu yn eu cymunedau eu hunain.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio y gallai'r gostyngiad yn nifer y da byw yng Nghymru fygwth hyfywedd ein diwydiant cig coch, ac arwain at lenwi’r bwlch yng Nghymru drwy fewnforio cig o ansawdd is, sydd wedi profi safonau llesiant is ac wedi arwain at lefel uwch o garbon. Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i ystyried cyflwyno taliad y pen, tebyg i’r taliad premiwm lloi sugno gan Lywodraeth yr Alban, i annog twf mewn cynhyrchu cig eidion premiwm. 

Mae’r adroddiad yn nodi hefyd y gallai caffael y sector cyhoeddus fod â rôl llawer mwy wrth gefnogi busnesau bwyd yng Nghymru, drwy greu galw sefydlog, hirdymor. 

Dywedodd Andrew RT Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig:

“Mae prosesu bwyd yn fusnes mawr yng Nghymru ac mae iddo’r potensial i wneud hyd yn oed rhagor er budd ein heconomi, ein hamgylchedd a’n cymunedau.

“Mae ein hadroddiad yn nodi gweledigaeth ar gyfer diwydiant prosesu bwyd yng Nghymru sy’n wydn, yn gynaliadwy ac yn ffynnu, a fydd yn creu rhagor o swyddi ac yn helpu twf ein heconomi.

“Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i lywodraeth nesaf Cymru greu strategaeth gyffredinol a chyfannol ar gyfer y system fwyd gyfan, alinio polisi bwyd y Llywodraeth, cefnogi’r sector prosesu bwyd, a blaenoriaethu cynaliadwyedd a diogelwch bwyd.

“Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru hefyd fod â chynllun ar gyfer ein diwydiant prosesu cig. Mae angen llif cyson ar ladd-dai, neu heb hynny byddant yn cau. Efallai y bydd gostyngiadau pellach yn niferoedd y stoc byw yng Nghymru yn arwain at fod angen i ni lenwi’r bwlch drwy fewnforio cig o ansawdd is, sydd wedi profi safonau llesiant is ac wedi arwain at lefel uwch o garbon.

“Drwy gefnogi proseswyr lleol, defnyddio caffael cyhoeddus yn fwy effeithiol, a gosod uchelgeisiau clir ar gyfer bwyd a gynhyrchir yng Nghymru, gall Llywodraeth Cymru helpu i greu system fwyd fwy gwydn a chynaliadwy sy’n gweithio i bawb.”

Prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

Mae mentrau llwyddiannus, fel y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, yn cynyddu'r cyflenwad o lysiau organig a gynhyrchir yn lleol mewn prydau bwyd ysgolion cynradd. Mae polisi prydau ysgol am ddim cyffredinol Cymru yn darparu'r galw sefydlog, gan ddangos sut y gall caffael y sector cyhoeddus gefnogi cynhyrchwyr lleol, a gwella canlyniadau amgylcheddol a mynediad at fwyd iach ar yr un pryd.

Diogelwch bwyd

Er mwyn hybu diogelwch bwyd a sicrhau rhagor o dwf, mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu targed Cynghrair Polisi Bwyd Cymru i 75% o lysiau a fwyteir yng Nghymru gael eu cynhyrchu yng Nghymru. 

Mae’r Aelodau yn dweud, fodd bynnag, bod angen buddsoddiad sylweddol mewn garddwriaeth i gyrraedd y targedau, gan gynnwys twneli polythen, ynghyd â chyfleusterau golchi, torri a storio.

Argymhellion allweddol

  • Creu strategaeth fwyd gydgysylltiedig i Gymru
  • Diogelu prosesu cig a diogelwch bwyd yng Nghymru.
  • Cefnogi twf mewn garddwriaeth yng Nghymru drwy ymrwymo i darged o gynhyrchu 75% o lysiau a fwyteir yng Nghymru yn gynaliadwy yng Nghymru.
  • Nodi camau gweithredu clir i gefnogi sector prosesu bwyd môr Cymru.
  • Defnyddio caffael cyhoeddus yn fwy strategol.
  • Ystyried taliad premiwm fel y premiwm lloi sugno. 

Mae bellach angen i Lywodraeth Cymru ymateb i adroddiad y Pwyllgor.

Mwy am y stori yma 

Darllenwch adroddiad y Pwyllgor