Understand and influence! Free workshop aimed at informing young people

Cyhoeddwyd 19/01/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Deall a dylanwadu! Gweithdy rhad ac am ddim i hysbysu pobl ifanc

Bydd Gwasanaeth Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal y cyntaf mewn cyfres o weithdai am ddim yn Aberystwyth ar 29 Ionawr.

Anelir y gweithdy at grwpiau ieuenctid cymunedol, sefydliadau sy’n gweithio â phobl ifanc, a phobl ifanc eu hunain.

Teitl y sesiwn yw ‘Deall a dylanwadu ar y Cynulliad Cenedlaethol’, a bydd yn trafod pynciau amrywiol fel pwy yw Aelodau’r Cynulliad a sut y gall pobl a sefydliadau ddylanwadu ar waith y Cynulliad.

Bydd hefyd yn esbonio beth yw Cyfarfodydd Llawn, y gwaith a wneir gan y pwyllgorau deddfwriaeth a chraffu, a sut mae’r cyfan yn effeithio ar bobl Cymru.

Gobeithir y bydd y rhai a fydd yn mynychu yn gadael y gweithdy gyda gwell dealltwriaeth o effaith gwaith y Cynulliad ar eu bywydau o ddydd i ddydd, a sut y gallant ymgysylltu â’r gwaith hwnnw.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol: “Mae’r gweithdai hyn yn rhan o’r ymdrech barhaus i gynyddu ymgysylltiad â’r broses ddemocrataidd yng Nghymru – sy’n flaenoriaeth os ydym am sicrhau dyfodol llewyrchus i ddatganoli.”

“Mae’r Gwasanaeth Allgymorth yn mynd â’r Cynulliad i bob cwr o Gymru, ac mae’r gweithdy’n enghraifft dda o’r ymdrech hwn ar waith.

“Bydd yn gyfle positif i bobl allu dysgu am y Cynulliad a’r pwysigrwydd o gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, ac rwy’n gobeithio bydd y rhai a fydd yn bresennol yn ystyried y profiad yn un defnyddiol ac addysgiadol, ac yn gadael wedi’u hysbrydoli i ymwneud â gwaith y Cynulliad”.

Gwybodaeth ychwanegol:

  • Cynhelir y gweithdy yn Ystafelloedd Cambria yn Aberystwyth rhwng 9.30 a 16.00. Arweinir y sesiynau gan Cheri Kelly, Rheolwr Allgymorth yng nghanolbarth Cymru, Kate Gravell, Swyddog Allgymorth Addysg, Gareth Rogers, Swyddfa Gyflwyno Bae Caerdydd, a Derek Corfield, Swyddog Allgymorth.

  • I archebu lle, ffoniwch 0845 010 5500, danfonwch e-bost at archebu@cymru.gsi.gov.uk neu ysgrifennwch at Gwasanaeth Archebu’r Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Canolfan Ymwelwyr y Gogledd, Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8PL.