Unigrwydd ac unigedd yng Nghymru – un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymgynghoriad

Cyhoeddwyd 12/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/01/2017

​Bydd ymchwiliad newydd yn ystyried effaith unigrwydd ac unigedd, yn enwedig ar bobl hŷn yng Nghymru, a'r hyn y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem.

Bydd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn archwilio maint y broblem ar hyd a lled y wlad, a’r rhesymau drosti, ac yn ystyried yr hyn y mae awdurdodau lleol, cymunedau, cyrff gwirfoddol a Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem.

Bydd hefyd yn ystyried i ba raddau y gall mentrau a sefydlwyd i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau eraill helpu pobl hŷn.

Mae ymchwil gan Age Cymru yn awgrymu bod 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo'n unig, a bod bron hanner y rhai a holwyd yn dweud mai eu set deledu neu eu hanifail anwes oedd eu prif gwmni.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yn effeithio ar fywydau’r rhai sy'n teimlo'n unig, gan gynnwys y gwasanaethau tai, y seilwaith trafnidiaeth a chyfleusterau cymunedol.

Bydd hefyd yn ystyried effaith bosibl y rhyngrwyd, o ran helpu pobl i deimlo'n well neu'n waeth.

"Un o'r pwyntiau y byddwn yn ei archwilio yn ystod yr ymchwiliad hwn yw’r syniad nad yw unigrwydd ac unigedd yn golygu’r un peth," meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

"Gall rhywun deimlo unigedd mewn cymuned wledig, ac unigrwydd mewn ystafell orlawn, ac i’r gwrthwyneb.

"Gall hefyd effeithio ar unrhyw un; pobl gyflogedig neu sydd wedi ymddeol, pobl sy’n byw mewn tref, dinas neu yng nghefn gwlad.

"Mae tystiolaeth yn dangos y gall unigrwydd ac unigedd gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol; drwy atal unigrwydd ac unigedd, felly, mae’n bosibl y gellid lleihau’r galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

"Yr hyn y byddwn yn ei ystyried yw effaith y materion hyn ar iechyd a lles pobl hŷn a'r hyn y gellir, ac a gaiff, ei wneud i’w cynorthwyo.

"Mae'n bwnc cymhleth a allai gwmpasu ystod eang o feysydd gan gynnwys gofal cymdeithasol, gwasanaethau cymunedol, trafnidiaeth a mynediad digidol.

"Os yw unigrwydd neu unigedd yn effeithio arnoch chi neu rywun rydych yn ei adnabod, yn awr neu yn y gorffennol, neu os ydych yn ymwneud â gwaith i geisio gwella’r sefyllfa, yna hoffem glywed am eich profiadau ac am y syniadau rydych chi’n credu a allai helpu.”

Os hoffech gyfrannu at yr ymchwiliad, ewch i dudalen y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol, neu dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddIechyd.

Daw’r ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 10 Mawrth 2017.