Urddas a pharch - datganiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Cyhoeddwyd 21/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi cyhoeddi'r diweddariad canlynol ar ei waith ar urddas a pharch yn y Cynulliad Cenedlaethol.

"Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 13 Mawrth 2018, roedd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn adlewyrchu ar gynnydd ei waith ar urddas a pharch yn y Cynulliad Cenedlaethol a lansiwyd ym mis Tachwedd 2017.

"Yn sgil y dystiolaeth a glywyd, mae'r Pwyllgor yn unfrydol bod angen mwy o amser arno i ddeall yn well sut y mae'r materion sy'n ymwneud ag ymddygiad amhriodol yn cael sylw yn y Cynulliad Cenedlaethol.

"O ganlyniad i hyn, mae'r Pwyllgor wedi cytuno i benodi cynghorydd arbenigol annibynnol er mwyn helpu'r Pwyllgor i lywio drwy'r materion a godwyd fel rhan o'r ymchwiliad hwn.

"Cytunodd hefyd i sefydlu grŵp cyfeirio, gan gynnwys cynrychiolwyr allanol, i roi her gadarn i gynigion y Pwyllgor wrth iddynt gael eu datblygu. Bydd y prosesau penodi ar gyfer y ddau yn cychwyn cyn gynted â phosibl.

"Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r gwaith sy'n mynd rhagddo i gymeradwyo'r polisi Urddas a Pharch interim newydd barhau. Roedd y polisi drafft yn destun ymgynghoriad â staff y Comisiwn, staff cymorth Aelodau'r Cynulliad a'r undebau llafur.

"Yn y cyfamser, mae sylwadau wrthi'n cael eu dadansoddi gyda'r nod o gyflwyno'r polisi i'w gymeradwyo cyn gynted ag y bo modd ar ôl y Pasg. Cytunodd y Pwyllgor y dylid ei adolygu dros y 12 mis nesaf wrth i ymchwiliad y Pwyllgor fynd rhagddo.

"Yn ogystal â'r gwelliannau sydd eisoes wedi'u cyflwyno, mae'r camau hyn yn adlewyrchu penderfyniad y Pwyllgor i sicrhau ei fod yn cyfrannu at greu diwylliant gwleidyddol sy'n rhydd rhag aflonyddu o unrhyw fath.

"Mae'r Pwyllgor yn parhau'n unedig yn ei farn nad oes lle i ymddygiad amhriodol o unrhyw fath yn y sefydliad hwn."