Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd yn galw am safbwyntiau ar bolisi urddas a pharch wedi’i adnewyddu. Mae'r Pwyllgor yn ymgynghori ar y prosesau sydd ar waith i gwyno am Aelodau o'r Senedd neu staff sy'n gweithio ar ystâd y Senedd.
Mae Comisiwn y Senedd, y corff sy'n gyfrifol am ddarparu’r eiddo, staff a gwasanaethau sydd eu hangen i alluogi'r Senedd i redeg, wedi adolygu'r dull o ymdrin ag Urddas a Pharch yn ddiweddar, gan gwmpasu Aelodau o'r Senedd, eu staff a'r rhai sy'n gweithio ar ystâd y Senedd.
Mae’r adolygiad diweddar yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer y Senedd ac mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi cymryd yr argymhellion hyn fel man cychwyn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.
Dywedodd Vikki Howells, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:
"Mae gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel ac wedi’u hamddiffyn wrth ryngweithio â'r Senedd ac mae'n hanfodol bod pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch yn y gweithle."Os oes angen gwneud cwyn am Aelod o’r Senedd neu unrhyw un sy’n gweithio i’r Senedd, yna dylai’r prosesau fod yn glir ac yn hygyrch i bawb.
"Er mwyn ein helpu i sicrhau bod y weithdrefn gwyno yn iawn ar gyfer y dyfodol, rydym yn awyddus i glywed barn pobl ar sut y gellir gwella pethau."
Bydd yr ymgynghoriad yn agor ddydd Iau 16 Tachwedd a bydd ar agor tan 8 Ionawr 2024.