Caiff sianel ddarlledu fideos Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd TV, ei hail-lansio heddiw (15 Medi), yn dilyn gwelliannau i'r gwasanaeth.
Bellach bydd defnyddwyr yn gallu gosod clipiau o'r Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgor ar eu platfformau eu hunain a gwylio'r deunydd ar ddyfeisiau symudol, yn ogystal â defnyddio'r nodweddion presennol.
Yn ogystal, bydd y Senedd TV newydd yn cynnig:
- dull o ffrydio sy'n ymaddasu er mwyn gwella safon y llun;
- y gallu i weithio ar ddyfeisiau symudol;
- y gallu i ddewis clip penodol o fusnes y Cynulliad a'i osod ar wefan trydydd parti;
- teclyn chwilio gwell sy'n ei gwneud yn haws i ddod o hyd i ddeunydd archif;
- nodwedd sy'n galluogi defnyddwyr i fynd yn ôl wrth wylio fideo byw a mynd yn syth i'r pwynt perthnasol mewn fideo archif yn rhwydd; ac
- archifo fideo o fewn dwy eiliad gan olygu y gellir gwylio cynnwys hanesyddol bron ar unwaith.
Dywedodd y Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, "Ymrwymais drwy fy ymgyrch, 'Mynd i’r afael â’r Diffyg Democrataidd yng Nghymru', i'w gwneud yn haws cael gafael ar ddata a chynnwys y Cynulliad.
"Yn fy marn i, mae Senedd TV nawr yn adnodd a fydd yn gwella mynediad ac ymgysylltiad â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol.
"Bydd yn galluogi unigolion a sefydliadau i osod cynnwys y Cynulliad yn uniongyrchol ar eu sianelau eu hunain, e.e. os bydd elusen am ddweud wrth ei chleientiaid am rywbeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud yn y Cyfarfod Llawn, bellach gall osod y clip perthnasol ar ei gwefan ei hun.
"Bydd y gwelliannau hefyd yn ei gwneud yn haws i chwilio drwy ein harchif helaeth ac yn bennaf oll, efallai, gallwch wylio Senedd TV ar eich dyfais symudol bellach, gan adlewyrchu'r tueddiadau diweddaraf o ran defnyddio'r cyfryngau.
"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous yn fy marn i, a fydd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo'r gwaith pwysig y mae'n ei wneud, o ran craffu ar Lywodraeth Cymru a deddfau newydd, i gynulleidfa ehangach."
Dywedodd Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am TGCh ac e-ddemocratiaeth: "Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol estyn allan i gynulleidfa mor eang â phosibl i sicrhau bod democratiaeth yn gweithio yng Nghymru.
"Mae llawer ohonom yn dewis ymgysylltu a chyfathrebu drwy sianelau digidol y cyfryngau bellach, ac mae'n hanfodol bod y Cynulliad yn defnyddio'r platfformau hyn.
"Mae cynnig adnodd ffrydio fideos ar-lein sy'n galluogi pobl i ymgysylltu â'r Cynulliad yn rhan ganolog o'r broses honno, a bydd lansio Senedd TV ar ei newydd wedd yn golygu y gall mwy o bobl weld a defnyddio cynnwys y Cynulliad."
Cliciwch yma i weld fideo sy'n egluro sut y mae'r nodweddion newydd yn gweithio:
http://youtu.be/Dom_QacXZQU