Wedi i Aelodau’r Cynulliad gefnogi cyfraith newydd, bydd bwrdd annibynnol yn penderfynu ar gyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad.
26 Mai 2010
Y prynhawn yma (26 Mai), pleidleisiodd Aelodau’r Cynulliad o blaid Mesur Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.
Bydd y Mesur yn cael ei gyflwyno i’r Frenhines i’w gymeradwyo’n ffurfiol, a hynny mewn cyfarfod o’r Cyfrin Gyngor. Disgwylir iddo ddod yn gyfraith o fewn 6 wythnos.
Golyga hyn y bydd Bwrdd Taliadau Annibynnol o bum aelod, yn penderfynu ar lefel y cymorth ariannol ar gyfer Aelodau’r Cynulliad yn y dyfodol.
Dyma’r Mesur cyntaf erioed i gael ei gynnig gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, a golyga na fydd modd i Aelodau’r Cynulliad ddweud eu dweud bellach ynghylch faint o gyflog y cânt na faint o dreuliau.
Dywedodd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, “Mae’r Mesur yn arwydd arall i’r cyhoedd yng Nghymru, a’r tu hwnt, o’n hymrwymiad ni i egwyddorion tryloywder a bod yn agored, sef egwyddorion rwy’n credu bod pobl yn eu cysylltu â’r Cynulliad Cenedlaethol erbyn hyn.
“Bydd y Mesur yn ychwanegu eto at yr enw da digon cyfiawn sydd gennyn ni am waith arloesol wrth gymhwyso’r egwyddorion hyn at ein tâl a’n lwfansau ni’n hunain.
“Felly heddiw, gwelwn ffrwyth llafur yr egni hwnnw i greu trefn agored a thryloyw i drafod cymorth ariannol i Aelodau. Yr wyf yn diolch i’r Aelodau am gefnogi’r drefn hon ac rwyf yn gobeithio y bydd y drefn yn ail gynnau ymddiriedaeth y pleidleiswyr ynom wrth iddynt ein hethol i’n swyddi”.
Ym mis Awst 2008, sefydlodd Comisiwn y Cynulliad Banel Annibynnol i edrych ar y drefn o roi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad.
Roedd Bwrdd Taliadau Annibynno yn un o’r 108 o argymhellion a wnaed gan y panel wrth iddo adrodd yn ôl ym mis Gorffennaf 2009.
Bydd y Bwrdd yn cynnwys pum aelod, gan gynnwys y Cadeirydd, a byddant yn gwasanaethu am gyfnod o bum mlynedd. Caniateir iddynt gael eu hail-ethol ar gyfer ail dymor.
Ni all Aelodau’r Cynulliad wasanaethu ar y Bwrdd.
Bydd y Bwrdd yn gwneud un penderfyniad ar gyflogau Aelodau’r Cynulliad bob pedair blynedd, ar gyfer pob tymor y Cynulliad. Fodd bynnag, bydd modd iddynt wneud penderfyniadau ar dreuliau yn fwy aml, os oes angen.
Bydd angen i’r aelodau gwrdd o leiaf unwaith y flwyddyn ond gallant gwrdd yn fwy aml os yw’r amgylchiadau yn gofyn iddynt wneud.