Y Bil Diddymu'r Hawl i Brynu - un o bwyllgorau'r Cynulliad am gael clywed barn y cyhoedd am y Bil

Cyhoeddwyd 20/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/03/2017

​Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried Bil a allai roi terfyn ar hawliau tenantiaid tai cyngor a chymdeithasau tai i brynu eu heiddo.

Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ystyried a oes angen y Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a fydd yn cyflawni ei amcanion os caiff ei basio.

Yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Bil, mae Llywodraeth Cymru yn datgan:

"Mae diogelu stoc o dai cymdeithasol Cymru ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu prynu cartref yn y farchnad dai drwy gyflwyno Bil i derfynu'r Hawl i Brynu yn un o flaenoriaethau'r rhaglen Symud Cymru Ymlaen."

Yn benodol, mae'r Pwyllgor yn awyddus i glywed barn tenantiaid mewn tai cymdeithasol a darpar denantiaid yr effeithir arnynt os bydd y Bil yn dod yn gyfraith. Byddai hefyd yn hoffi clywed gan bobl sydd wedi prynu eu cartrefi o dan y cynlluniau hyn.

"Rôl y Pwyllgor yw gwneud yn siŵr bod y Bil yn angenrheidiol ac wedi'i gynllunio'n dda, ac y bydd yn mynd i'r afael â'r materion a'r amcanion y bwriadwyd iddo fynd i'r afael â nhw." meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

"Fel rhan o'n gwaith byddwn yn mynd i wahanol leoliadau o amgylch Cymru i gwrdd â thenantiaid tai cymdeithasol i ofyn iddynt sut y mae cynigion Llywodraeth Cymru yn debygol o effeithio arnynt.

"Fodd bynnag, byddem hefyd yn annog unrhyw un y mae'r ddeddf hon yn debygol o effeithio arnynt i gymryd rhan yn ein hymchwiliad ac anfon eu sylwadau atom.”

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan ddydd Gwener, 28 Ebrill ac mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i gyfrannu ar gael ar dudalennau'r Pwyllgor ar y we.

Bydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei gyhoeddi ar 7 Gorffennaf 2017.