Y Cyfarfodydd Llawn yn parhau, ond bydd adeiladau'r Senedd ar gau tan fis Mehefin

Cyhoeddwyd 07/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/04/2020

Mae holl ddigwyddiadau wyneb yn wyneb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi cael eu gohirio tan o leiaf 31 Mai ac mi fydd adeiladau'r Senedd a Pierhead yn parhau ar gau i'r cyhoedd.

Cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad - y grŵp o ACau sy'n darparu eiddo, adnoddau a staff ar gyfer y sefydliad - fod y gwaharddiad ar gynnal gweithgareddau cyhoeddus wedi cael ei ymestyn tra bod y cyfyngiadau mewn ymateb i’r argyfwng Coronafeirws yn parhau. Yn wreiddiol roedd yr holl waith ymgysylltu wedi ei ohirio tan 26 Ebrill ac mi fydd y terfyn newydd ar 31 Mai hefyd yn cael ei adolygu yn unol â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae Comisiwn y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru yn trafod sut mae modd manteisio ar lwyfannau digidol a fideo gynadledda er mwyn parhau i gysylltu â'r cyhoedd.

Ddydd Mercher, 8 Ebrill, mi fydd Aelodau Cynulliad yn cwrdd mewn Cyfarfod Llawn rithwir am yr eildro gan ddefnyddio'r llwyfan fideo-gynadledda Zoom. Mi fydd y cyfarfod yn cychwyn am 1.30 y prynhawn ac yn cael ei ddarlledu'n fyw ar Senedd.tv

Yn dilyn llwyddiant y Cyfarfod Llawn rithwir cyntaf, ar ddydd Mercher 1 Ebrill, mae sesiwn yr wythnos hon wedi ehangu er mwyn cynnwys mwy o Aelodau. Bydd uchafswm o 28 Aelod yn cymryd rhan gyda chynrychiolaeth ar gyfer pob grŵp plaid fel a ganlyn: gall 12 Aelod fod yn bresennol ar ran Llafur Cymru/Llywodraeth Cymru, 6 ar gyfer Ceidwadwyr Cymru, 4 Plaid Cymru a 2 Plaid Brexit. Bydd grwpiau plaid yn penderfynu ar eu presenoldeb ac mae gan Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp hawl i fod yn bresennol.

Yr wythnos hon, bydd Aelodau hefyd yn pleidleisio. Gwneir hyn gan ddefnyddio pleidlais wedi'i bwysoli trwy alwad lle bydd cynrychiolydd o bob grŵp plaid yn bwrw pleidleisiau ar ran holl aelodau'r grŵp. 

Mae agenda'r Cyfarfod Llawn yn cynnwys datganiadau am Coronafeirws gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC. Mae'r agenda hefyd yn caniatáu trafod busnes arall sy’n sensitif o ran amser, yn cynnwys ystyried Cyfnod 1 Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sydd am ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ar gyfer etholiadau llywodraeth leol o 2021.

Hefyd, mae cytundeb y bydd y Cynulliad yn cymryd toriad yr wythnos nesaf, o ddydd Iau 9 Ebrill hyd ddydd Mawrth 21 Ebrill. Ni fydd Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.

Ar 17 Mawrth cyhoeddwyd y bydd holl fusnes nad sy’n hanfodol o ran amser yn cael ei ohirio er mwyn blaenoriaethu materion yn ymwneud â'r ymateb i Coronafeirws. Mae Pwyllgor Busnes y Cynulliad wedi cwrdd yn wythnosol – drwy fideo gynadledda ers y gwaharddiad ar deithio - i adolygu’r rhaglen waith a thrafod sut y gellir defnyddio technoleg er mwyn sicrhau fod y cyfle i graffu a thrafod yn parhau.

Ers y Cyfarfod Llawn rhithwir cyntaf yr wythnos diwethaf, mae rhai o Seneddau eraill y byd wedi cysylltu â’r Cynulliad yn gofyn am wybodaeth am sut i gynnal cyfarfodydd o’r fath.