Y Cynulliad Cenedlaethol i drafod Rheolau Sefydlog newydd

Cyhoeddwyd 07/03/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Cynulliad Cenedlaethol i drafod Rheolau Sefydlog newydd

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod y Rheolau Sefydlog newydd a fydd yn llywio'i waith o fis Mai ymlaen. Paratowyd y Rheolau Sefydlog gan bwyllgor trawsbleidiol o Aelodau'r Cynulliad a chânt eu cyflwyno ar yr un pryd â'r pwerau newydd y bydd y Cynulliad yn eu cael o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru ar ôl yr etholiadau ym mis Mai. Byddant yn cael eu trafod gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn yfory (dydd Mercher 7 Chwefror). Dywedodd Jenny Randerson AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Lluniwyd y cynigion hyn yr ydym yn eu rhoi gerbron i sicrhau bod modd i'r Cynulliad ymdrin â'r heriau cyffrous sydd o'i flaen mewn ffordd effeithiol a hyblyg. “Rydym wedi datblygu'r ffordd agored, hygyrch a thryloyw y mae'r Cynulliad yn gweithredu ar hyn o bryd, ac ymhlith ein cynigion y mae Pwyllgor Cyllid, a fydd yn gwneud y broses o graffu ar y gyllideb yn fwy agored a chadarn, a gweithdrefnau newydd er mwyn i'r Cynulliad wneud ei ddeddfau ei hun. “Ymysg y datblygiadau newydd yr ydym yn eu cynnig, mae gwell system i ymdrin â deisebau a gyflwynir gan y cyhoedd fel bod modd iddynt gael mwy o lais ynghylch y materion sy'n effeithio arnynt. “Mae'r Pwyllgor wedi gweithio'n galed i sicrhau consensws o ran y cynigion hyn ac, â chymeradwyaeth y Cynulliad, rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn derbyn mai dyma yw ewyllys y Cynulliad.” Nodiadau i Olygyddion Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud Rheolau Sefydlog a fydd yn rheoli trafodion y Cynulliad ar ôl yr etholiadau ym mis Mai.   Yn ôl y Ddeddf, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol roi ar waith unrhyw gynigion a wneir gan y Cynulliad (y mae dwy ran o dair o Aelodau'r Cynulliad sy'n pleidleisio arnynt wedi eu cymeradwyo) ond gall eu haddasu, fel y nodir yn y Ddeddf. Mwy o wybodaeth am waith y Pwyllgor ar y Rheolau Sefydlog