Y Cynulliad Cenedlaethol i drafod y pryderon iechyd ynghylch hyrwyddo diodydd llawn caffein i blant a phobl ifanc
13 Mai 2013
Ddydd Mercher 15 Mai, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod y pryderon iechyd ynghylch hyrwyddo diodydd egni sy'n llawn caffein i blant a phobl ifanc.
Mae'r Ddadl Aelodau Unigol, a gyflwynwyd gan Jenny Rathbone AC, Aelod Canol Caerdydd, yn cynnig bod y Cynulliad:
Yn nodi bod hyrwyddo diodydd egni llawn caffein i blant a phobl ifanc yn achos o bryder sylweddol i iechyd y cyhoedd; a
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i godi ymwybyddiaeth o’r pryderon iechyd sy'n ymwneud â diodydd egni llawn caffein.
Dywedodd Jenny Rathbone AC, “Mae ymchwil yma ac yn Ewrop wedi cadarnhau bod hyn wedi dod yn broblem fawr.”
“Mae lleiafrif arwyddocaol o bobl ifanc yn gaeth i'r stwff, ac maen nhw'n ei yfed ar y ffordd i'r ysgol ac yn ystod eu hawr ginio.
“Mae pobl sy'n gweithio gyda phlant yn dweud ei fod yn gallu cael effaith sylweddol ar ymddygiad pobl ifanc.
“Mae angen rhagor o waith ymchwil ar yr effeithiau hirdymor, ond mae'n achos pryder y gallai caffein effeithio ar allu'r corff i amsugno haearn a chalsiwm.
“Rwyf o'r farn bod cod ymarfer gwirfoddol y diwydiant diodydd i beidio â thargedu eu nwyddau at blant yn cael ei anwybyddu mewn modd amlwg ac agored.”
Mae'r Aelodau canlynol yn cefnogi'r ddadl: Angela Burns AC (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro), Ann Jones AC (Dyffryn Clwyd), Keith Davies AC (Llanelli), Ken Skates AC (De Clwyd), Aled Roberts AC (Gogledd Cymru), Mike Hedges AC (Dwyrain Abertawe) a Joyce Watson AC (Canolbarth a Gorllewin Cymru).
Caiff y ddadl ei chynnal yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd am 13.30 ddydd Mercher 15 Mai.
Mae Dadleuon Aelodau Unigol yn rhoi cyfle i Aelodau'r Cynulliad godi materion pwysig sy'n berthnasol i'w hetholwyr ac i ddod â'r materion i sylw'r Cynulliad Cenedlaethol.
Nodiadau i olygyddion
Linc i agenda'r Cyfarfod Llawn, ddydd Mercher 15 Mai 2013.
Linc i ragor o wybodaeth am Ddadleuon Aelodau Unigol