Y Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal y sesiwn seneddol 'rithwir' gyntaf yn y DU

Cyhoeddwyd 01/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Yn ddiweddar, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi newid ei ffordd o weithio drwy gyflwyno nifer o ddarpariaethau brys i sicrhau bod y Cynulliad yn gallu parhau â busnes hanfodol yn ymwneud â COVID-19. 

Un o’r newidiadau hyn oedd cynnal Cyfarfod Llawn rhithwir am y tro cyntaf y prynhawn yma (dydd Mercher 1 Ebrill 2020), yn defnyddio offer fidio-gynadledda. 



Meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a fu’n cadeirio’r sesiwn: 
 
“Yn ystod y cyfarfod llawn rhithwir heddiw, a gynhaliwyd dros blatfform fideo-gynadledda, gwelwyd cyfraniadau gan Weinidogion ac Aelodau ledled Cymru.

“Roedd hwn yn gam arloesol i’r Senedd a’r tro cyntaf i unrhyw senedd yn y DU gwrdd yn y ffordd yma. Mae'r modd y cynhaliwyd y cyfarfod yn dangos fod y Cynulliad yn benderfynol o allu parhau i gyflawni ei ddyletswydd wrth ganiatáu craffu effeithiol.

“Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cymryd sawl cam er mwyn newid y ffordd y mae’r Senedd yn gweithio a blaenoriaethu materion yn ymwneud â’r achosion o COVID-19.

“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n gallu parhau i ddiweddaru Aelodau trwy gydol yr argyfwng hwn, ac i’r Aelodau allu dwyn y Llywodraeth i gyfrif.”

Mae modd gwylio Cyfarfod Llawn rithwir cyntaf y Cynulliad fel recordiad ar Senedd.tv.