Y Cynulliad Cenedlaethol yn cael cymeradwyaeth am leihau'r rhwystrau sy'n bodoli i bobl sy'n drwm eu clyw
12 Mehefin 2013
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael cymeradwyaeth am ei waith yn lleihau'r rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar neu bobl sy'n drwm eu clyw.
Mae nod siarter ‘Louder than Words’ Action on Hearing Loss yn cydnabod llwyddiannau sefydliadau a busnesau yn y maes hwn.
Dywedodd Rosemary Butler, y Llywydd: “Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymfalchïo ei fod yn agored a thryloyw.
“Ond ni allwn fod yn gwbl agored a thryloyw oni bai bod pawb yng Nghymru yn gallu cymryd rhan yn ein gwaith.
“Dyna pam rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwaith y Cynulliad yn hygyrch i bawb yng Nghymru, ac mae darparu gwasanaethau sy'n hygyrch i bobl fyddar neu sy'n drwm eu clyw yn rhan allweddol o'r ymrwymiad hwnnw.”
Mae deg safon ansawdd yn rhan o'r siarter, a defnyddir y safonau hyn i benderfynu pa mor hygyrch yw'r Cynulliad ar gyfer staff, ymwelwyr a defnyddwyr ei wasanaethau.
Mae'r gwaith a wnaed gan y Cynulliad i wella hygyrchedd yn cynnwys:
hyfforddiant cydraddoldeb gorfodol i'r holl staff, a hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o fod yn fyddar ac Iaith Arwyddion Prydain hefyd;
cael system dolen gynhwysfawr yn ein hystâd;
cael polisïau a gweithdrefnau ar waith i gefnogi staff sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw;
cael Rhwydwaith Staff Anabl prysur; a
sicrhau bod staff yn gwybod am y math gwahanol o gymorth sydd ar gael iddynt gyfathrebu â phobl.
Dywedodd Richard Williams, Cyfarwyddwr, Action on Hearing Loss Cymru: “Mae un person ym mhob chwech yn drwm eu clyw drwy Gymru.
“Rydym wrth ein bodd, felly, bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dangos ymrwymiad llwyr i gyrraedd ein safonau arfer gorau Yn Uwch na Geiriau, gan sicrhau bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle hygyrch a chroesawgar i bawb, a bod gan bobl fyddar neu bobl sy'n drwm eu clyw yr un hawl â phawb arall i gael mynediad at wasanaethau'r Cynulliad.”