Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael ei enwi ymhlith y pum cyflogwr gorau o staff LHDT yn y DU am y bumed flwyddyn yn olynol.
Mae Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle blynyddol diweddaraf Stonewall hefyd wedi enwi'r sefydliad y cyflogwr gorau yng Nghymru ac wedi ei gydnabod fel y partner traws-gynhwysol gorau, a Pherfformiwr Rhagorol.
Dywedodd Elin Jones AM, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o gadw ei le yn y pum cyflogwr gorau ym Mynegai Cydraddoldeb y Gweithle Stonewall - am y bumed flwyddyn yn olynol."
"Mae'n dangos ein bod wedi datblygu a chynnal diwylliant cynhwysol sy'n dangos ymrwymiad y Senedd i gynrychioli holl gymunedau amrywiol Cymru.
"Rydym yn benderfynol o barhau i wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn lle pleserus a gwerth chweil i weithio i bawb, gan ein bod o'r farn bod y sefydliad yn cyflawni mwy gyda gweithlu amrywiol a chynhwysol."
Mae gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, sy'n gyfrifol am weithredu'r Cynulliad o ddydd i ddydd a darparu cefnogaeth i Aelodau'r Cynulliad, amrywiaeth o adnoddau a pholisïau hyfforddi ar waith i hyrwyddo'r sefydliad fel cyflogwr traws-gynhwysol.
Dywedodd Joyce Watson AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am gydraddoldeb:
"Unwaith eto mae'n llwyddiant hyfryd sicrhau safle uchel ym Mynegai Cydraddoldeb y Gweithle Stonewall a hoffwn ddiolch i bob aelod o staff am eu cyfranogiad a'u hymrwymiad i sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn lle cynhwysol i weithio.
"Mae sicrhau safle uchel o'r fath yn gyson yn destament i'n credoau a gobeithio y gall sefydliadau a chwmnïau eraill gael ysbrydoliaeth o'n hymagwedd."
Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol rwydwaith staff LHDT+ gweithredol o'r enw OUT-NAW. Mae staff a chefnogwyr yn rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr, yn darparu cefnogaeth i gymheiriaid ac yn trefnu cyfranogiad y Cynulliad mewn digwyddiadau, gan gynnwys Pride, Mis Hanes LHDT, Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia, Diwrnod Gwelededd Deurywiol a Diwrnod Gwelededd Trawsrywiol.
Anogir contractwyr allanol hefyd i fabwysiadu arferion cynhwysol yn y gwaith.
Dywedodd Manon Antoniazzi AC, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
"Mae hyrwyddo cydraddoldeb LHDT yn rhan bwysig o bwy ydym ni a dangosir hyn drwy'r sefydliad - o'n rhwydwaith staff LHDT bywiog, yr hyfforddiant, yr adnoddau a'r polisïau sydd gennym ar waith a dathlu cydraddoldeb a arweinir yn weithredol gan uwch-reolwyr.
"Rydym hefyd yn gwerthfawrogi rhannu arferion gorau ar draws ystod eang o sefydliadau eraill, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, a byddwn yn parhau i annog a chael ein hysbrydoli gan ymdrechion eraill."