Cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei gydnabod fel prif gyflogwr y DU 2018 ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle diweddaraf Stonewall.
Dyma'r tro cyntaf i'r Cynulliad gyrraedd brig y rhestr a daw hyn ddeng mlynedd ers iddo ymddangos gyntaf ar y mynegai. Ers hynny, mae'r Cynulliad wedi gweithio'i ffordd i fyny’n raddol ac mae wedi ymddangos ymhlith y deg uchaf am y pedair blynedd diwethaf.
Roedd Stonewall hefyd yn canmol gwaith y Cynulliad o ran hyrwyddo, cydnabod a chefnogi cydraddoldeb trawsryweddol, gan ei nodi fel un o ddim ond 11 sefydliad enghreifftiol yn y DU.
Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
"Mae’n anrhydedd i gael ein cydnabod gan Stonewall fel prif gyflogwr y DU ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol.
"Mae amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd rôl y Cynulliad Cenedlaethol o ran cynrychioli pobl Cymru.
"Rydym yn falch o gefnogi ein rhwydwaith staff LHDT ac rydym yn parhau i weithio i greu diwylliant cynhwysol - nid yn unig i'r bobl sy'n gweithio yma ond i'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli ar draws cymunedau amrywiol Cymru gyfan.
"Fel senedd Cymru, mae'n iawn y dylem arwain trwy esiampl i ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda'r agweddau, yr arweinyddiaeth a’r penderfyniad cywir.
"Mae hwn nid yn unig yn ddiwrnod gwych i'r Cynulliad, mae hefyd yn newyddion da i staff yn y sefydliadau Cymreig niferus eraill a gynrychiolir ymhlith y 100 cyflogwr gorau. Maent yn dangos bod pobl yng Nghymru yn amlwg yn deall gwerth polisi cynhwysol a chyflenwi gwasanaethau ac yr wyf yn eu llongyfarch i gyd."
Meddai Joyce Watson AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am amrywiaeth a chynhwysiant:
"Mae hon yn gamp wych sy'n dod ddeng mlynedd ers i’r Cynulliad gael ei gydnabod gyntaf ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall.
"Mae'n brawf o ymroddiad ein staff, yn enwedig ein tîm amrywiaeth a chynhwysiant, yn cofleidio a thrwytho cydraddoldeb LHDT ymhob agwedd ar ein gwaith o gynrychioli pobl Cymru.
"Mae ein llwyddiant yn dangos y gall newidiadau cynyddol mewn polisi ac ymagwedd barod tuag at newid agweddau gyflawni cymaint a bod yn enghraifft i eraill."
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru:
‘Yn gyson, rwyf wrth fy modd i weld sut mae cyflogwyr ledled Cymru yn trawsnewid bywydau a chyfleoedd pobl LHDT, mae'r canlyniadau hyn yn dangos bod ein cenedl fach balch unwaith eto yn arwain y ffordd.
'Rydyn ni'n gwybod, er gwaetha’r cynnydd dros hawliau LHDT yn y blynyddoedd diweddar, mae pobl LHDT yng Nghymru yn dal i brofi gwahaniaethu, camdriniaeth ac yn cael eu ynysu yn y gwaith, cartref ac yn ein cymunedau. Mae gwaith cyflogwyr cynhwysol LHDT yn hanfodol er mwyn sicrhau cenedl iachach, mwy ffyniannus a mwy cyfartal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
'Mae creu’r amgylchedd gorau yn y gwaith ar gyfer yr holl staff yn arwain at weithlu hapusach, iachach, sydd gyda gwell gwasanaethau, a mwy o gynhyrchiant. Nid yw’n unig ‘y peth iawn’ i wneud er lles cydraddoldeb yn y gweithle, ond mae hefyd yn dda i fusnes.
'Mae ein senedd genedlaethol yn gwneud y peth iawn wrth hyrwyddo cydraddoldeb, yn enwedig cydraddoldeb traws. Mae'r camau cadarnhaol a gymerwyd ganddynt yn gosod esiampl wych i bob cyflogwr am faint y gellir ei gyflawni gyda'r arweinyddiaeth a'r awydd cryf i sicrhau newid cadarnhaol.’
Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol nifer o bolisïau a gweithgareddau ar waith o ran hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys:
- Dathliad blynyddol Mis Hanes Pobl LHDT a Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia;
- Presenoldeb yn nigwyddiadau Pride Caerdydd a Sparkle Abertawe;
- Cyflwyno toiledau a chawodydd niwtral o ran y rhywiau i staff ac ymwelwyr;
- Ymgorffori Asesiadau Effaith Cydraddoldeb mewn polisïau corfforaethol fel y polisi iechyd meddwl i staff;
- Datblygwyd polisïau cynhwysol fel ein polisi Trawsnewid yn y Gwaith a chanllawiau ar gyfer cefnogi pobl anneuaidd.
- Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o bobl draws ac amrywiaeth o ymyriadau hyfforddiant ar gefnogi staff LHDT; a
- Darparu cefnogaeth gan gymheiriaid drwy OUT-NAW, y rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle LHDT.