Y Cynulliad Cenedlaethol yn camu i’r bwlch i sicrhau y bydd fflag y ddraig Gymreig yn parhau i gael ei chwifio ar ochr arall y byd
Bydd fflag y ddraig Gymreig yn parhau i gael ei chwifio uwchben y gymuned Gymreig ym Mhatagonia, diolch i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cafodd fflagiau Cymreig y gymuned yn Nhrefelin eu dwyn wedi i’r beirniadu ddod i ben yn ystod ei heisteddfod flynyddol, a gynhaliwyd yn ystod wythnos olaf mis Ebrill.
Ond camodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r bwlch, gyda chymorth Charles Ashburner o Sefydliad y Fflagiau, i roi pum fflag Cymreig i’r gymuned, gan sicrhau y gall y gornel honno o’r Ariannin barhau i ddathlu ei hunaniaeth Gymreig.
“Rydym o hyd yn ystyried ein cefndryd ym Mhatagonia gydag anwyldeb mawr,” meddai’r Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.
“Maent yn sicrhau bod rhan fechan o Gymru yn bodoli miloedd o filltiroedd i ffwrdd ar ochr arall y byd.
“Felly, wrth i ni ddathlu Eisteddfod yr Urdd yma ym Mae Caerdydd, rydym yn falch o gynnig yr arwydd bach hwn i’w galluogi i ddathlu eu heisteddfodau yn y dyfodol ac arddangos eu tras Gymreig gyda balchder.”
Mae tua 12,000 o bobl yn byw yn Nhrefelin, a gall oddeutu 70 y cant ohonynt olrhain eu tras yn ôl i Gymru.
Cyflwynwyd y baneri i Jeremy Wood, aelod blaenllaw o’r gymuned a oedd yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd, gan y Llywydd yn Siambr y Cynulliad.
“Roedd y gymuned yn Nhrefelin wrth ei bodd pan glywodd fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymryd cymaint o ddiddordeb yn y dref fach hon,” meddai Mr Wood.
“Mae’n anrhydedd mawr i ni gyd, ac rydym yn ddiolchgar i dderbyn yr anrheg hon o fflagiau sy’n dangos yn glir y cyfeillgarwch sy’n bodoli rhwng tref Gymreig Trefelin ym Mhatagonia a phobl Cymru.”