Y Cynulliad Cenedlaethol yn chwifio'r faner i nodi Wythnos y Lluoedd Arfog
24 Mehefin 2013
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi Wythnos y Lluoedd Arfog drwy chwifio baner y lluoedd uwchben ei ystâd yng Nghaerdydd a Bae Colwyn.
Dywedodd Rosemary Butler AC, y Llywydd: “Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn nodi aberth miloedd o ddynion a menywod sydd wedi gwasanaethu, neu sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, yn ein Lluoedd Arfog.
“Ni ddylem anghofio bod llawer o bobl wedi aberthu i'r eithaf i amddiffyn y rhyddid democrataidd a gymerwn yn ganiataol heddiw.
“Mae'n bwysig i mi fel y Llywydd, bod y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi ymroddiad ac aberth y dynion a'r menywod hyn bob blwyddyn yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog, yn ogystal â Dydd y Cofio.
“Mae gwrthdaro wedi cyffwrdd â mi'n bersonol, fel y gwnaeth i lawer o bobl eraill, felly mae'n bwysig i mi ein bod yn cydnabod y rhai sy'n gwasanaethu, drwy chwifio baner y Lluoedd Arfog dros ystâd y Cynulliad.”