Y Cynulliad Cenedlaethol yn dathlu Diwrnod Pobl Anabl.
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl ddydd Mercher 3 Rhagfyr. Trwy weithio gyda mudiadau anabledd gwirfoddol, bydd y digwyddiadau’n cynnwys:
Accesible acting - gweithdy perfformio gan Celfyddydau Anabledd Cymru;
Cyflwyniad gan Baralympiaid Cymru 2008;
Trafod hawliau a chynlluniau gweithredu anabledd;
Stondinau ac arddangosfeydd gan gynrychiolwyr grwpiau anabledd;
Dangos DVD ar hygyrchedd adeiladau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae’r partneriaid sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad yn cynnwys Anabledd Cymru, Scope Cymru, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins a’r Grŵp Iechyd Meddwl Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Cymru Gyfan. Cynhelir digwyddiadau mewn gwahanol leoliadau yn y Senedd a Thŷ Hywel.
Dywedodd Lorraine Barrett AC, Comisiynydd y Cynulliad sy’n gyfrifol am gydraddoldeb:
“Rwy’n falch bod Comisiwn y Cynulliad yn cynnal y dathliad hwn i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl 2008 gyda phartneriaid o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Bu 2008 yn flwyddyn arwyddocaol i bobl anabl. Yn gynharach yn y flwyddyn, ymunodd y Cenhedloedd Unedig â’r Confensiwn ar Hawliau Pobl Anabl i lunio protocol sy’n nodi’r cyfrifoldebau sydd ar aelod wladwriaethau i hyrwyddo a gwarchod hawliau pobl anabl. Mae 2008 hefyd yn nodi 60 mlynedd ers cyhoeddi’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Credaf fod hwn yn gyfle da i nodi’r digwyddiadau hanesyddol hynny drwy’r gweithgareddau rydym wedi eu trefnu.”
Ychwanegodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad:
“Mae dros ugain mlynedd ers i'r Cenhedloedd Unedig ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl am y tro cyntaf ac mae’n rhoi cyfle i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl. Heddiw byddwn yn cael y cyfle i ddathlu llwyddiannau pobl anabl ynghyd â’u cyfraniad i gymdeithas yng Nghymru. Hefyd, bydd modd trafod beth arall ellir ei gyflawni ar ran a chan bobl anabl a sut y gallwn herio a chael gwared ar rwystrau posibl i gydraddoldeb i bobl anabl.”
Cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad Gynllun Cydraddoldeb Sengl yn ddiweddar sy’n nodi’r ffordd y bydd yn hyrwyddo cydraddoldeb ar draws yr holl feysydd cydraddoldeb. Mae’r cynllun gweithredu sy’n rhan o’r Cynllun Cydraddoldeb yn nodi ein hamcanion cydraddoldeb, gan gynnwys yr amcanion ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb anabledd. Gellir dod o hyd i gopïau ar dudalen Cynulliad Cymru’n lansio ei gynllun cydraddoldeb