Y Cynulliad Cenedlaethol yn paratoi ar gyfer y dyfodol gydag adolygiad pellgyrhaeddol o’i ffyrdd o weithio

Cyhoeddwyd 27/05/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Cynulliad Cenedlaethol yn paratoi ar gyfer y dyfodol gydag adolygiad pellgyrhaeddol o’i ffyrdd o weithio

27 Mai 2010

Heddiw mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi y bydd yn adolygu ei weithdrefnau er mwyn sicrhau y bydd y Cynulliad yn parhau i weithio’n effeithiol wrth iddo wynebu ail ddegawd o ddatganoli yng Nghymru.

Cyhoeddodd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, heddiw y bydd yr adolygiad yn dechrau gydag ymgynghoriad ffurfiol ar Reolau Sefydlog y Cynulliad, sy’n llywodraethu sut mae’r Cynulliad yn gweithio.

Mae’r Cynulliad felly yn dymuno clywed sut mae sefydliadau neu unigolion yn teimlo y gellid newid y Rheolau Sefydlog er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd i’w deall, ond hefyd yn caniatáu ar gyfer arloesi a gwella swyddogaethau’r Cynulliad o gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a hefyd sut mae’r Cynulliad yn deddfu ar gyfer Cymru.

Mae’r Rheolau Sefydlog yn cynnwys pob agwedd ar drafodion y Cynulliad, er enghraifft: trefn busnes mewn Cyfarfodydd Llawn, fel faint o amser sy’n cael ei neilltuo ar gyfer busnes y Llywodraeth a’r gwrthbleidiau; sut y gall Aelodau ofyn cwestiynau i Weinidogion; y broses ddeddfwriaethol a sut mae Aelodau’n gwneud eu gwaith craffu mewn pwyllgorau.

“Mae’r Cynulliad yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn ddeddfwrfa arloesol a blaengar, ac mae’n cyflawniadau yn ystod deng mlynedd cyntaf datganoli yn dyst i hynny,” meddai’r Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

“Fodd bynnag, ni allwn fforddio bod yn hunanfodlon. Mae natur gwleidyddiaeth yn datblygu’n barhaus. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod bydd cyfle i bobl Cymru benderfynu, mewn refferendwm, a hoffent i’r Cynulliad gael pwerau i ddeddfu ar gyfer Cymru ar bynciau datganoledig, heb gynnwys San Steffan.

“Yn yr un modd, bydd gan bobl Cymru gyfle i bleidleisio dros bwy yr hoffent eu cael fel cynrychiolwyr etholedig yn y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

“Mae gan y Cynulliad felly ddyletswydd i sicrhau bod ein ffyrdd o weithio’n parhau i fod yn arloesol, yn effeithiol ac yn hygyrch. Rwy’n sicr y bydd yr adolygiad hwn yn cyfrannu llawer at sicrhau hynny.”

Hoffai Pwyllgor Busnes y Cynulliad Cenedlaethol wybod a yw ffordd y Cynulliad o weithio’n hygyrch ac yn effeithiol o ran cyflawni’i swyddogaethau o:

– ddwyn y llywodraeth i gyfrif;

– deddfu; a

– chynrychioli pobl Cymru.

Byddai’r Pwyllgor hefyd yn croesawu eich barn ar:

– yr egwyddorion cyffredinol sy’n tanategu sut y dylai’r Cynulliad weithio ac a fydd yn sail i’r adolygiad (gweler rhagor o fanylion am y rhain yn yr alwad am dystiolaeth);

– sut y gellid gwella trafodion a rheolau’r Cynulliad i adlewyrchu’r egwyddorion;

– y newidiadau y credwch a fyddai’n gwella unrhyw ddarpariaethau penodol o fewn y Rheolau Sefydlog.

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo gyda’i waith. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg a bydd yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig yn ystod tymor yr hydref. Lle maent yn ymwneud â sylwadau mwy cyffredinol ar ffyrdd y Cynulliad o weithio, byddwn hefyd yn dod â hwy i sylw pwyllgorau neu swyddogion eraill y Cynulliad.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, y dyddiad cau yw 23 Gorffennaf 2010. Efallai na fydd yn bosibl ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn. Gweler yr alwad am dystiolaeth

Anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad at StandingOrders@cymru.gsi.gov.uk

Rhowch y pennawd Ymgynghoriad – Adolygiad o’r Rheolau Sefydlog i’ch e-bost.

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Llinos Madeley, Clerc Gweithdrefnau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.