Bydd y Cynulliad Cenedlaethol i'w weld ar Faes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd gyda rhaglen o ddigwyddiadau drwy gydol yr wythnos.
Gall pobl ifanc rhwng 11 a 18 mlwydd oed gofrestru i bleidleisio a darganfod sut i fod yn ymgeiswyr yn Senedd Ieuenctid Cymru, sydd ar y gorwel.
Cynhelir etholiad cyntaf y Senedd Ieuenctid yn yr hydref. Bydd 60 o bobl ifanc yn aelodau ohoni; bydd 40 o'r 60 yn cynrychioli etholaethau Cymru a phleidleisir drostynt yn uniongyrchol gan bobl ifanc. Bydd yr 20 arall yn cael eu hethol o sefydliadau rhanddeiliaid, i sicrhau y cawn Senedd Ieuenctid sy'n fwy cynrychioliadol o gymdeithas Cymru.
Bydd staff y Cynulliad wrth law yn y Ganolfan Ffermwyr Ifanc drwy'r wythnos.
Ddydd Mercher, 25 Gorffennaf bydd Elin Jones AC, y Llywydd, yn cynnal ei derbyniad blynyddol gyda thrafodaeth banel o'i flaen ar y thema 'Menywod yn Arwain y Ffordd'. Cadeirydd y drafodaeth fydd Rachel Evans, Cyfarwyddwr Cymru y Gynghrair Cefn Gwlad, ac ynghyd â'r Llywydd ar y panel, fydd:
Victoria Shervington-Jones, Ffermwraig y Flwyddyn Cymru NFU/Principality 2017
Helen Walbey, Sylfaenydd Recycle Scooters, Cadeirydd Polisi'r DU ar Faterion Cartref ac arweinydd Gweithlu Cymru ar gyfer Amrywiaeth, y Ffederasiwn Busnesau Bach; a
Catrin Pascoe, Golygydd, y Western Mail
Hefyd ddydd Mercher, bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal digwyddiad yn stondin Prifysgol Aberystwyth ar ei waith sy'n gysylltiedig â Brexit.
Mae'r Pwyllgor wedi edrych ar ddyfodol polisïau amaethyddiaeth a datblygu gwledig ac, yn fwy diweddar, mae wedi edrych ar egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol, fframweithiau cyffredin a physgodfeydd.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Cynulliad Cenedlaethol yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Cynulliad.cymru/SioeFrenhinolCymru2018.
Ceir rhagor o wybodaeth am Sioe Frenhinol Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am docynnau, teithio a map o faes y Sioe yma.