Y Cynulliad Cenedlaethol yw’r cyflogwr mwyaf hoyw-gyfeillgar yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

Cyhoeddwyd 15/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad Cenedlaethol yw’r cyflogwr mwyaf hoyw-gyfeillgar yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

15 Ionawr 2014

Cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei enwi fel y lle mwyaf hoyw-gyfeillgar i weithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, a gynhyrchir gan y sefydliad hawliau cyfartal, Stonewall, yn edrych ar amrywiaeth o nodau er mwyn mesur sut mae sefydliadau’n cefnogi staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Cafodd y Cynulliad ei restru fel Rhif 11 ymhlith y 100 cyflogwr gorau yn y DU ac eleni y Cynulliad yw’r Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

"Rwy’n falch iawn o’r wobr hon gan ei bod yn dangos ein bod yn sefydliad cyfoes sy’n cynrychioli holl gymunedau Cymru," meddai’r Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC.

"Bu gwaith OUT-NAW, rhwydwaith y Cynulliad ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn ganolog i sicrhau’r gydnabyddiaeth hon ac i weithredu gweledigaeth y sefydliad i fod yn gyflogwr sy’n buddsoddi yn ei adnoddau mwyaf hanfodol, sef ei weithlu".

"Mae OUT-NAW yn arloesol iawn yn ei ymagwedd.  Mae’n datblygu pecynnau hyfforddi ar gyfer rheolwyr llinell a staff cyswllt cyntaf, mae’n trefnu digwyddiadau ar gyfer staff ac mae wedi lansio ei raglen Cynghreiriaid LGBT lle gall staff gefnogi cydweithwyr LGBT.

"Fel rhan o strategaeth ymgysylltu â’r gymuned y Cynulliad, rydym hefyd wedi cynnal ein ‘Teithiau Pinc’ cyntaf o amgylch y Senedd, gan annog y gymuned LGBT i ddysgu mwy am y sefydliad ac i ymgysylltu â ni."

Dyma’r chweched flwyddyn yn olynol i’r Cynulliad gael ei restru ymhlith y lleoedd mwyaf hoyw-gyfeillgar i weithio yn y DU.

Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad Cenedlaethol â chyfrifoldeb am faterion cydraddoldeb: “Hoffwn dalu teyrnged i staff y Cynulliad sy’n gweithio’n galed i roi rhaglenni ar waith i sicrhau bod y Cynulliad yn lle cyfeillgar a chadarnhaol i’n holl staff weithio ynddo.

"Eleni rydym wedi gwella ein safle ar y mynegai a chawsom ein henwi fel y cyflogwr gorau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

"Mae’n dangos nad ydym yn llaesu dwylo a’n bod bob amser yn ceisio cael gwelliannau, nid yn unig o ran cydraddoldeb, ond ym mhob agwedd ar waith y Cynulliad."

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymgymryd â’r gwaith a ganlyn i sicrhau bod y Cynulliad yn lle mwy hoyw-gyfeillgar i weithio:

  • Rydym wedi mynd â’n Bws Allgymorth i Mardi Gras Cymru yng Nghaerdydd ac i Swansea Pride er mwyn ymgysylltu â’r gymuned LGBT ac annog ymgysylltiad democrataidd;

  • Rydym wedi cynnal digwyddiadau a theithiau er mwyn ymgysylltu â phobl LGBT yn benodol;

  • Rydym wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hybu cydraddoldeb LGBT ac i ddangos ein hymrwymiad i Fis Hanes LGBT ac i’r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Thrawsffobia;

  • Rydym yn parhau i weithio â phartneriaid lleol i ddathlu Mis Hanes LGBT;

  • Mae gennym gynllun Cynghreiriaid LGBT lle gall staff nad ydynt yn LGBT ddangos eu hymrwymiad a’u cefnogaeth i gydraddoldeb LGBT;

  • Rydym yn hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol drwy ein polisïau staff cynhwysol, ein hyfforddiant penodol ar gyfer staff LGBT a’n sesiynau codi ymwybyddiaeth;

  • Mae gennym uwch-hyrwyddwr LGBT a nifer o uwch-gynghreiriaid sy’n hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol ac yn allanol.

"Mae’r cyfraniad y mae ein Cyflogwyr Gorau yn ei wneud o ran creu profiad byw tecach a mwy cynhyrchiol i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn y gweithle yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol," meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru.

“Rydym yn gwybod hyn gan fod ein Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn ei fesur.  Rwy’n falch iawn o’r ffaith bod 10 o 100 cyflogwr gorau’r DU yn gyflogwyr o Gymru.  Er gwaetha’r pwysau economaidd, mae’r cyflogwyr hyn yn dangos na fu buddsoddi mewn cydraddoldeb erioed yn bwysicach.

"Llongyfarchiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gael ei enwi fel y ‘Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru’.  Mae hyn yn dyst i ymrwymiad y Cynulliad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, sydd i’w weld ar bob lefel o’r sefydliad."

Dywedodd Craig Stephenson, Cadeirydd OUT-NAW: "Mae cynnydd o 15 safle yn uwch na’r llynedd yn ganmoliaeth uchel i’r rhwydwaith staff LGBT ac i’r sefydliad am y gwaith y mae’n ei wneud i sicrhau bod y Cynulliad hyd yn oed yn fwy cynhwysol.

"Mae’n galluogi staff LGBT fel fi i fod yn ni ein hunain yn y gweithle a heb amheuaeth, mae pobl yn perfformio’n well pan allant fod yn hwy eu hunain."

Aelodau OUT-NAW gyda Chyfeillion LGBT