Y Cynulliad i drafod adroddiad ar leihau’r risg o strôc

Cyhoeddwyd 07/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Cynulliad i drafod adroddiad ar leihau’r risg o strôc

7 Chwefror 2012

Ddydd Mercher (8 Chwefror), yn y Senedd, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adroddiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n nodi ffyrdd o wella gwasanaethau Llywodraeth Cymru i leihau’r risg o strôc.

Mae’r adroddiad yn ganlyniad ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Canfu’r ymchwiliad nad yw cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar leihau’r risg o strôc yn cael ei reoli mor effeithiol ag y gallai ac mae’r adroddiad yn galw am werthusiad llawn i roi mwy o eglurder ynghylch ei berchnogaeth a’r modd y caiff ei weithredu.  

Gwnaeth y Pwyllgor bump o argymhellion yn ei adroddiad, a derbyniwyd pob un ohonynt yn llawn, neu mewn egwyddor, gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, “Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, o leiaf mewn egwyddor, pob un o’n prif argymhellion. Nawr rydym yn disgwyl i’r Llywodraeth gymryd camau clir i fynd i’r afael â’r materion a amlygwyd yn ein hadroddiad”.

“Mae tri o’r argymhellion yn ymwneud, yn syml, â chanolbwyntio sylw ar yr angen i sicrhau bod awdurdodau ledled Cymru yn cadw at ganllawiau clinigol a gydnabyddir yn genedlaethol.”

“Bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed sylwadau’r Gweinidog a’m cyd-Aelodau yn ystod y drafodaeth ar y mater pwysig hwn.”