Cyhoeddwyd 02/10/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Y Cynulliad i ganolbwyntio ar Leihau Gollyngiadau Carbon
Bydd Pwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cyfarfod i gymryd tystiolaeth ar ei ymchwiliad craffu cyntaf i Leihau Gollyngiadau Carbon yng Nghymru ddydd Iau 4 Hydref am 9.30am.
Yn 1997, ymrwymodd y DU i darged domestig o leihau gollyngiadau carbon deuocsid o 20 y cant islaw lefelau 1990 erbyn 2010.
Mae’r ddogfen Cymru’n Un, sy’n amlinellu rhaglen y llywodraeth glymblaid, yn cynnig lleihau gollyngiadau carbon yng Nghymru o 3% y flwyddyn erbyn 2011 mewn ardaloedd o gymhwysedd datganoledig.
Mae’r Pwyllgor Cynaliadwyedd yn ymateb yn gyflym i graffu ar waith Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cyfrannu at darged y DU a sut y mae’n bwriadu cyrraedd y targed a amlinellwyd yn nogfen Cymru’n Un.
Yn ystod y cyfarfod bydd y Pwyllgor yn cymryd tystiolaeth gan:
- Asiantaeth yr Amgylchedd;
- Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy;
- Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni; ac
- Yr Ymddiriedolaeth Garbon
Bydd y cyflwynwyr yn rhoi tystiolaeth ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â lleihau gollyngiadau carbon yng Nghymru ac yn ei roi o fewn cyd-destun newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, yn y DU ac yn Ewrop.
Bydd y Pwyllgor wedyn yn rhannu’r ymchwiliad yn destunau i’r diben o gasglu tystiolaeth ganolbwyntiedig a bydd yn craffu ar waith Gweinidogion perthnasol y Llywodraeth ar ddiwedd pob testun.
Dyma’r testunau i’w cynnwys:
- Lleihau gollyngiadau carbon o gartrefi
- Lleihau gollyngiadau carbon o drafnidiaeth
- Lleihau gollyngiadau carbon o ddiwydiant a chyrff cyhoeddus
- Lleihau gollyngiadau carbon o gynhyrchu trydan (gan gynnwys ynni adnewyddadwy)
- Rheoli’r defnydd o dir gwledig a lleihau gollyngiadau carbon
- Cyfraniad y system Gynllunio i leihau gollyngiadau carbon
Dechreuir pob testun gydag ymgynghoriad ysgrifenedig fel y gall sefydliadau ac unigolion roi eu barn i’r Pwyllgor ar y materion.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Mick Bates AC: “Credaf y gallwn gyflawni pob agwedd ar ein gobeithion amgylcheddol i Gymru trwy leihau gollyngiadau carbon – gallwn wella ein hamgylchedd lleol, sicrhau economi werdd a sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’r cenedlaethau sydd i ddod. Edrychaf ymlaen at glywed y dystiolaeth ac at ddysgu sut y gallwn i gyd wneud gwahaniaeth.”
Manylion llawn am y pwyllgor, yr ymchwiliad ac agenda