Y Cynulliad i ganolbwyntio ar TB mewn gwartheg yn Sioe Frenhinol Cymru

Cyhoeddwyd 20/07/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad i ganolbwyntio ar TB mewn gwartheg yn Sioe Frenhinol Cymru

Bydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfarfod i gymryd tystiolaeth ar ei ymchwiliad craffu cyntaf ar y materion cyfredol sy’n ymwneud â TB mewn gwartheg ddydd Mercher 25 Gorffennaf ym mhafiliwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar faes y Sioe Frenhinol rhwng 10.00 a.m. a 11.45 a.m. Ym mis Awst 2004, cyhoeddodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ddarganfyddiadau ei ymchwiliad ynglyn â TB mewn gwartheg yng Nghymru. Ym mis Mehefin 2007, cyhoeddodd y Grwp Gwyddonol Annibynnol ar TB mewn Gwartheg ei adroddiad terfynol o dan yr enw: Bovine TB: The Scientific Evidence. Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn gweithredu’n gyflym i adolygu TB mewn gwartheg yn sgil cyhoeddi’r adroddiad diweddaraf, a bydd yn holi’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig ynglyn â’r canlynol:
  • ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad y grwp gwyddonol annibynnol; ac
  • effeithiolrwydd gweithredu argymhellion Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad.
Yn ystod y cyfarfod bydd yr is-bwyllgor yn cymryd tystiolaeth gan undebau ffermwyr a Chymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad. Mae cyfarfodydd pellach wedi’u trefnu ar gyfer mis Awst a mis Medi, pan fydd y pwyllgor yn casglu tystiolaeth oddi wrth academyddion a grwpiau sy’n ymwneud â lles anifeiliaid. Bydd y pwyllgor hefyd yn cymryd tystiolaeth oddi wrth Weriniaeth Iwerddon cyn holi’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig ynglyn â darganfyddiadau’r is-bwyllgor. Bydd y pwyllgor hefyd yn cynnal proses ymgynghori ysgrifenedig ar gyfer sefydliadau ac unigolion fel y gallant fynegi eu barn ar y mater. Meddai cadeirydd yr is-bwyllgor, Alun Davies AC: “Mae’r sylw sydd wedi’i roi gan y cyfryngau, yn ddiweddar, i achosion TB mewn gwartheg yng Nghymru yn dangos pa mor fawr yw’r mater hwn. Yr ydym ni, fel pwyllgor, wedi ymrwymo’n llwyr i archwilio’r materion yn fanwl ac i ymgynghori â’r rheiny ag anifeiliaid a busnesau sydd o dan effaith y clefyd. Yr ydym yn lwcus iawn o gael y cyfle i gwrdd yn y sioe amaethyddol fwyaf yng Nghymru, a fydd yn ein helpu i drafod y mater gyda chymaint o bobl ag y mae’n bosibl, mewn lleoliad sy’n gyfleus i lawer o bobl yn y diwydiant.” Dim ond 40 sedd a ddarperir ar gyfer y cyhoedd yn ystod y cyfarfod, felly argymhellir bod aelodau’r cyhoedd yn neilltuo sedd ymlaen llaw. I wneud hynny, ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost at: assembly.bookings@wales.gsi.gov.uk. Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig, rhowch wybod i’r swyddfa pan fyddwch yn neilltuo’ch sedd. Gan fod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn ystod y Sioe Frenhinol, bydd y tâl mynediad i’r maes yn gymwys. Nodiadau i Olygyddion
  • Gellir cael y manylion yn llawn, ynghyd â’r agenda, yma
  • Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn is-bwyllgor o’r Pwyllgor Cynaliadwyedd. Prif swyddogaeth y Pwyllgor Cynaliadwyedd yw ystyried a rhoi adroddiad ar y dyletswyddau perthnasol sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 ac a roddwyd i’r Cynulliad, Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru neu’r Comisiwn.
  • Mae cylch gwaith y pwyllgor yn cynnwys y canlynol:
- Newid yn yr hinsawdd - Ynni - Materion Gwledig ac Amaethyddiaeth - Yr Amgylchedd - Cynllunio
  • Sefydlwyd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar 5 Gorffennaf 2007 a’i gylch gwaith yw holi’r Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch y meysydd cyfrifoldeb y mae’r is-bwyllgor yn ystyried fel rhai sy’n effeithio ar ddatblygu gwledig.