Y Cynulliad mewn sefyllfa gref i fynd i’r afael â’i bwerau deddfu newydd ar ôl hunanwerthusiad trylwyr

Cyhoeddwyd 13/05/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Cynulliad mewn sefyllfa gref i fynd i’r afael â’i bwerau deddfu newydd ar ôl hunanwerthusiad trylwyr

Heddiw (13 Mai), cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei adroddiad etifeddiaeth mewn perthynas â’r Cynulliad, a gynhaliwyd rhwng 2007 a 2011.

Dyma’r tro cyntaf i Gomisiwn y Cynulliad gyhoeddi gwerthusiad o sut y cyflawnodd ei amcanion, o ran darparu gwasanaeth i bobl Cymru a chraffu ar Lywodraeth Cymru.

Mae’r dadansoddiad hwn wedi cyfrannu at y paratoadau a wnaed ar gyfer y Cynulliad newydd, sydd â phwerau deddfu ehangach yn dilyn canlyniad cadarnhaol y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Mawrth.

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr y Cynulliad: “Ar ddechrau’r adroddiad hwn, ceir trosolwg o ddull gweithredu’r Comisiwn o ran strategaeth a threfniadaeth.

“Yna, ceir detholiad o gerrig milltir ac uchafbwyntiau’r Trydydd Cynulliad, sy’n ein hatgoffa o’r ystod eang o weithgareddau a welwyd yn ystod y pedair blynedd dan sylw.

“Mae’r penodau olaf yn asesu’r lefel o gyrhaeddiad a welwyd mewn perthynas â phob un o bum nod strategol y Comisiwn, ac yn rhoi argymhellion a allai gynorthwyo’r Comisiwn yn ystod y Pedwerydd Cynulliad.

“Mae’r canlyniad cadarnhaol a gafwyd ar ragor o bwerau deddfu i’r Cynulliad, ynghyd â’r dirwedd wleidyddol newydd sydd gennym yn sgil etholiad y Cynulliad, yn rhoi cyd-destun newydd i’r Comisiwn o ran adolygu ei nodau strategol ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad.”

Pum nod strategol y Cynulliad 2007/11:

  • Hyrwyddo ac ymestyn yr ymgysylltiad â datganoli;

  • Dangos undod, arweinyddiaeth ac ymateb eofn i newid cyfansoddiadol;

  • Dangos parch, uniondeb a llywodraethu da;

  • Gweithio’n gynaliadwy; a

  • Sicrhau bod gan y Cynulliad y gwasanaeth gorau, wedi’u darparu yn y ffordd fwyaf effeithiol.