Y Cynulliad yn cytuno i ganiatau’r Bil arfaethedig Aelod cyntaf
10 Ionawr 2012
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno i ganiatáu i’r Bil arfaethedig Aelod cyntaf gael ei gyflwyno.
Yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ar 11 Ionawr, pleidleisiodd Aelodau’r Cynulliad o blaid y cynnig i greu deddf ar barhad o ofal i fywyd fel oedolyn gan gytuno i’r cynnig gael ei ddatblygu’n Fil ac i fynd ymlaen i gyfnod cyntaf y broses ddeddfwriaethol.
Cyflwynwyd y cynnig am Fil gan Ken Skates AC, a’i enw ef a ddewiswyd yn y balot cyntaf ar gyfer Biliau Aelodau, a gynhaliwyd ym mis Hydref y llynedd.
Dywedodd Mr Skates, “Rwyf yn hynod falch o fod yn gyntaf i gael y cyfle i greu deddfwriaeth mainc gefn yn y Cynulliad newydd.”
“Mae gadael gofal yn beth mawr i bob plentyn sy’n derbyn gofal, ac, yn rhy aml, ceir problemau yn ystod y cyfnod pontio wrth iddynt ddod yn oedolion. Mae’r bobl fregus hyn yn dod yn oedolion yn gyflym iawn, ac mae’r posibilrwydd y byddant yn gorfod byw ar eu pen eu hunain yn gysgod drostynt o’r cyfnod pan nad ydynt ond yn 14 neu’n 15 oed.
“Nid yw llawer ohonynt yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt yn y cyfnod hwn, a thynnodd adroddiad diweddar y Comisiynydd Plant sylw at y ffaith bod rhai ohonynt yn gadael gofal cyn eu bod yn barod i wneud hynny.
“Nid yw llawer ohonynt yn meddu ar y cymwysterau addysgol, y cymorth o ran tai a’r cymorth emosiynol y mae ei angen arnynt i ffynnu fel oedolion, ac mae bywyd yn anodd iddynt yn ddiweddarach o ganlyniad.
“Yn aml, mae gwasanaethau gadael gofal yn anghyson ledled Cymru, ac mae angen i ni wneud mwy i gryfhau’r strwythurau cymorth wrth i bobl ifanc adael gofal.
“Rydym yn parhau i roi cymorth a chefnogaeth i’n plant ein hunain ar ôl iddynt droi’n 18, ond mae pobl ifanc sy’n agored i niwed yn aml yn gorfod wynebu’r byd ar eu pen eu hunain.
“Mae’n rhaid i hynny newid, a dyna pam rwyf yn ceisio’r cyfle i gyflwyno deddfwriaeth newydd, fel bod cyfnodau mwy graddol, sydd wedi’u teilwra i anghenion y person ifanc, yn cymryd lle rhoi terfyn sydyn ar ofal.
“Lle y bo’n briodol, gallai hynny olygu caniatáu i leoliadau gofal barhau nes y bydd y person ifanc yn 25. Mae sawl opsiwn y dylid eu hystyried, ond, yn sicr, mae angen mwy o gymorth ar bobl ifanc o’r oedran hwn nag y maent yn ei gael ar hyn o bryd.”
Dyweodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
“Mae Biliau arfaethedig Aelod yn arfau pwysig o ran dangos sut y gall y Cynulliad ymateb i anghenion pobl Cymru drwy gydnabod materion a godwyd gan Aelodau mewn ardaloedd penodol sydd angen eu trafod yn genedlaethol.”
“Er mwyn gwneud y Cynulliad Cenedlaethol yn fwy agored a hygyrch, hoffwn sicrhau bod rhagor o amser yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei neilltuo ar gyfer busnes yr Aelodau unigol. Bydd hynny’n galluogi Aelodau i roi’r sylw pennaf i faterion a chynigion y mae eu hetholwyr yn eu crybwyll wrthynt.”
Mae gan Mr Skates naw mis i gyflwyno’r Bil yn ffurfiol.