Y Cynulliad yn mynd yn groes i'r duedd ac yn perfformio'n well na'r sector preifat o ran absenoldeb salwch

Cyhoeddwyd 22/10/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn mynd yn groes i'r duedd ac yn perfformio'n well na'r sector preifat o ran absenoldeb salwch

22 Hydref 2012

Mae enw da'r Cynulliad Cenedlaethol fel cyflogwr rhagorol sy'n darparu amgylchedd gweithio cadarnhaol sy'n ystyriol o deuluoedd wedi cael ei atgyfnerthu ymhellach gan adroddiad ar lefelau absenoldeb oherwydd salwch.

Yn ôl adroddiad y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), mae'r Cynulliad yn perfformio'n well na'r cyfraddau cyfartalog yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2011, ffigur y Cynulliad ar gyfer dyddiau absennol oherwydd salwch oedd 5.7 am bob gweithiwr amser llawn, o'i gymharu â chyfartaledd o 8.2 diwrnod yn y sector cyhoeddus (sefydliadau di-elw) a 6 diwrnod yn y sector gweithgynhyrchu a chynhyrchu. Mae gan y Cynulliad yr un lefel o berfformiad â'r sector gwasanaethau preifat.

Fodd bynnag, pan fyddwch yn ystyried sefydliadau o faint tebyg, gyda rhwng 250 a 999 o weithwyr, mae'r Cynulliad hefyd yn perfformio’n well na’r sector gwasanaeth.

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, "Mae'r ffigurau hyn yn arwydd pellach bod y Cynulliad yn enghraifft o arfer gorau fel cyflogwr.

"Yn y 12 mis diwethaf, rydym wedi cael ein gosod yn y 10 uchaf o weithleoedd sy'n ystyriol o deuluoedd ynghyd â chwmnïau blaenllaw FTSE 100, ac rydym wedi cael ein henwi yn y 20 uchaf o weithleoedd hoyw-gyfeillgar yn y DU.

"Mae gennym hefyd wobr Safon Aur gan Buddsoddwyr mewn Pobl. Felly, mae'n amlwg bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle croesawgar i weithio, lle mae cydraddoldeb a datblygu staff yn ganolog i'n strategaethau i ddarparu gwasanaeth seneddol enghreifftiol i'r Aelodau ac i bobl Cymru.

"Ond yn y pen draw, mae pobl eisiau dod i'r gwaith oherwydd eu cydweithwyr a'r rheolwyr y maent yn gweithio iddynt, felly rhaid rhoi clod i bob un o staff y Cynulliad, sy'n amlwg yn gwneud corff deddfu Cymru yn le hapus a phleserus i weithio."