Y Cynulliad yn nodi mis hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol drwy chwifio baner enfys y tu allan i’r Senedd
22 Chwefror 2012
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi mis hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol drwy chwifio baner enfys uwchben ei ystâd ym Mae Caerdydd a Bae Colwyn yn y Gogledd ar 22 Chwefror.
Caiff y faner ei chwifio i gyd-fynd â digwyddiad yng Nghaerdydd a drefnir gan Stonewall, y sefydliad hawliau cyfartal, pan fydd Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall yng Nghymru, (gan gynnwys hyrwyddwyr o’r Cynulliad Cenedlaethol), yn dod at ei gilydd i nodi mis hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
Daeth y Cynulliad Cenedlaethol hefyd i’r brig yng Nghymru yn y categori Rhwydwaith Gweithwyr Cyflogedig ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynrychioli pob cymuned yng Nghymru.”
“Mae pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn gymuned o bobl nad oes ganddynt gynrychiolaeth ganfyddedig ddigonol mewn gwleidyddiaeth prif ffrwd o bosibl.
“Roeddwn am nodi mis hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn y ffordd hon er mwyn dangos ein bod yn cynrychioli pob
cymuned yng Nghymru.”
Dywedodd Sandy Mewies, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am gydraddoldeb: “Pleser mawr ac anrhydedd yw cymryd rhan yn y seremoni hon gyda Out-NAW i godi’r Faner Enfys.
“Mae Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn ymwneud yn gyfan gwbl â dathlu amrywiaeth a phlwraliaeth ddiwylliannol, ac rydym yn ymdrechu i wneud hynny yn y Cynulliad drwy gyfrwng ein polisïau ar gydraddoldeb.”
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud y gwaith a ganlyn i sicrhau bod y Cynulliad yn weithle sydd yn fwy hoyw-gyfeillgar:
Mae ein rhwydwaith staff i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol wedi dechrau rhaglen fentora
Rydym yn parhau i weithio â phartneriaid lleol i ddathlu Mis Hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol
Mae gennym bresenoldeb o hyd ym Mardi Gras Caerdydd – ac eleni, bu’r Llywydd yn anerch ar y prif lwyfan
Rydym yn cynhyrchu bwletin cydraddoldeb misol sy’n cynnwys gwybodaeth am newyddion, cyhoeddiadau, cynadleddau ac ati ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol
Rydym yn hybu cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn fewnol drwy ein polisïau a’n hyfforddiant ar gyfer staff, yn ogystal â thrwy ein gwaith o godi ymwybyddiaeth
Mae gennym uwch swyddog sy’n hyrwyddwr i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a nifer o uwch swyddogion gwahanrywiol sy’n gynghreiriad o ran hyrwyddo cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol o fewn y Cynulliad a thu hwnt