Y Dirprwy Brif Weinidog yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cynaliadwyedd
Bydd Ieuan Wyn Jones AC, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cynaliadwyedd ar faterion sy’n ymwneud â’i ymchwiliad ym maes lleihau allyriadau carbon yng Nghymru.
Bydd y Pwyllgor yn craffu ar y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyfrannu at dargedau gostwng carbon y DU ac ar ei chynigion i gyflawni’r targed yn nogfen Cymru’n Un i sicrhau lleihad yn yr allyriadau carbon blynyddol sy'n gyfwerth â 3% y flwyddyn.
Rhannwyd yr ymchwiliad yn wahanol destunau er mwyn hwyluso’r broses o gasglu tystiolaeth. Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor yn trafod lleihau allyriadau carbon mewn diwydiant a chyrff cyhoeddus.
Dywedodd Mick Bates AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “O leihau allyriadau carbon, gallwn gyflawni uchelgais amgylcheddol Cymru yn ei chyfanrwydd. Gallwn wella’r amgylchedd lleol, creu economi werdd a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r cenedlaethau a ddaw. Rwy’n edrych ymlaen at holi’r Dirprwy Brif Weinidog ynghylch y ffordd y mae’r Llywodraeth yn mynd ati i fodloni’r targedau a geir yn nogfen Cymru’n Un.”
Cynhelir y cyfarfod am 9.30am ddydd Iau 13 Rhagfyr yn Ystafell Bwyllgora 3 yn y Senedd ym Mae Caerdydd.. Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor