Y Dirprwy Lywydd yn ffarwelio â chefnogwyr pêl-droed sy’n bwriadu codi arian i elusennau

Cyhoeddwyd 21/05/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Dirprwy Lywydd yn ffarwelio â chefnogwyr pêl-droed sy’n bwriadu codi arian i elusennau

Y Dirprwy Lywydd yn ffarwelio â chefnogwyr pêl-droed sy’n bwriadu codi arian i elusennau

Rhoddwyd ffarwel teilwng i grwp o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru ar y grisiau y tu allan i’r Senedd heddiw (Mai 21) cyn dechrau ar daith bythefnos yn gyrru ar draws Ewrop.

Bydd y grwp, o elusen swyddogol cefnogwyr Cymru ‘Gôl’, yn teithio drwy Ffrainc, yr Almaen, Hwngari, Romania, Bwlgaria a Georgia cyn cyrraedd  Azerbaijan yn barod i wylio gêm gymhwyso Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ar 6 Mehefin.

Wrth iddynt groesi’r cyfandir, byddant yn ymweld â chartrefi plant amddifaid sydd wedi cael cymorth gan Gôl dros y blynyddoedd i weld sut y caiff yr arian ei wario.

Bu Rosemary Butler AC, y Dirpwy Lywydd, ar daith swyddogol i Georgia y llynedd, i annog menywod i gymeryd ran yn y broses wleidyddol.    

Dywedodd y Dirprwy Lywydd: “Mae Georgia yn wlad ffantastig. Mae’r bobl yn hyfryd a chefais groeso cynnes yno yn ystod fy ymweliad y llynedd.

“Mae hefyd yn wlad sydd angen ein cymorth a dyna pam roeddwn am gefnogi elusen Gôl yn ei menter. Nid pobl Georgia yn unig y byddant yn eu helpu ond pobl ifanc sydd mewn angen ar draws Ewrop.

“Hoffwn ddymuno’n dda iddynt ar eu taith er rwy’n siwr y byddant yn wynebu ambell i her ar hyd y ffordd.”