Y drws yn agor i gyfleoedd mentora yn y Cynulliad wrth i staff gael tystysgrifau hyfforddi

Cyhoeddwyd 14/05/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y drws yn agor i gyfleoedd mentora yn y Cynulliad wrth i staff gael tystysgrifau hyfforddi

14 Mai 2013

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi parhau â'i ymrwymiad i ddatblygu staff gyda 10 aelod o staff yn pasio cyrsiau hyfforddiant y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli (ILM).

Maent bellach wedi ennill cymhwyster llawn i gynnig mentora a hyfforddiant i staff eraill y Cynulliad.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, "Mae hyfforddi yn arf defnyddiol iawn i ryddhau potensial a gwella perfformiad."

"Mae'r Cynulliad yn gwerthfawrogi hyfforddi fel arf datblygu ac mae wedi buddsoddi mewn hyfforddi staff i ennill cymhwyster Hyfforddi'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli.

Drwy hyfforddi carfan o hyfforddwyr, bydd hyn yn galluogi staff i gael gafael ar gyfleoedd hyfforddi a mentora yn y gweithle, a gall y Cynulliad elwa ar y manteision sy'n deillio o hyfforddi."

Cyflwynwyd tystysgrifau'r ymgeiswyr llwyddiannus iddynt gan y Llywydd mewn seremoni fer yn y Senedd, gyda Marcus David o'r ILM a John Francis, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Prifysgol De Cymru, yn bresennol.

Mae'r ddau sefydliad wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu a darparu'r cyrsiau hyfforddi a mentora y mae'r Cynulliad wedi bod yn ei gynnig i'w staff ers 2011.

Dywedodd Marcus David, Rheolwr Datblygu gyda’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli, “Mae’n braf cwrdd â dysgwyr cymhwyster yr ILM yn ogystal â gweithio gyda Phrifysgol De Cymru.”

“Ein nod yw datblygu gwybodaeth a sgiliau drwy hyfforddi, gan wella perfformiad a chodi ysbryd.”

Dywedodd Mike Snook, Pennaeth Ystadau a Chyswllt Cyntaf y Cynulliad, sydd bellach yn hyfforddwr cymwysedig, "Yn syml iawn, gofynnais i'r person a oedd yn cael ei hyfforddi, ac a fu'n pendroni dros rywbeth ers amser hir, 'Beth sy'n dy rwystro di? Beth yw'r peth gwaethaf allai ddigwydd?

Dyna agor y drws ac ar ôl treulio amser yn trafod ac yn ystyried y ffordd orau o fynd i'r afael â'r broblem, aeth yr unigolyn yn ôl at ei ddesg, drafftiodd e-bost a chyfarfu â'i reolwr llinell a gytunodd i'w gais."

Dywedodd Rebecca Hardwicke, sy'n hyfforddwr arall ac yn Rheolwr Datblygu'r Sefydliad: "Mae'n rhoi llawer o foddhad bod yn rhan o'r foment pan fo'r hyfforddai yn sylweddoli beth y mae angen iddo ei wneud i gael gwared ar unrhyw rwystrau a symud ymlaen."